Cofrestru ein Hawdurdod Lleol

Sut ydw i'n cofrestru ein Hawdurdod Lleol?

  1. Cwblhewch ein ffurflen gofrestru i rannu manylion trefniadau a mesuryddion cyflenwad ynni eich ysgol. Mae'r wybodaeth hon yn angenrheidiol i'n galluogi i asesu pa mor hawdd y gallwn ymuno â'ch ysgolion i Sbarcynni.
  2. Byddwn yn cysylltu â chi i drafod y camau nesaf. Gall hyn gynnwys arddangosiad o Sbarcynni i staff Awdurdodau Lleol.
  3. Fel arfer byddwn yn cyhoeddi Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) i amlinellu disgwyliadau ar y ddwy ochr. Gweld enghraifft o CLG.
  4. Pan fydd ysgolion yn prynu ynni drwy gontract Awdurdod Lleol, fel arfer bydd angen Llythyr Awdurdod ar Sbarcynni a rhestr o'r rhifau mesurydd perthnasol a ddarperir gan dîm ynni'r Cyngor. Weithiau, gall yr Awdurdod Lleol sefydlu adroddiadau data awtomataidd i Sbarcynni drwy borth eich cyflenwr eich hun. Lle mae gan ysgolion drefniadau prynu amgen, byddant fel arfer yn darparu eu Llythyr Awdurdod eu hunain.
  5. Bydd pob ysgol unigol hefyd yn rhoi caniatâd i ni gael mynediad at eu data ynni a’u cyhoeddi fel rhan o’u cyfrif, ochr yn ochr â chadarnhau eu bod yn cytuno â’n telerau ac amodau.
  6. Disgwylir i swyddogion Awdurdod Lleol gefnogi Sbarcynni gyda recriwtio ysgolion gan ddefnyddio deunyddiau marchnata a ddarperir gan Sbarcynni. Mae Sbarcynni yn cael yr effaith fwyaf pan fydd yn gysylltiedig â gweithgareddau eraill sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd sy'n mynd rhagddynt ar draws eich Awdurdod Lleol. Yn aml gall Sbarcynni gyflwyno i fforymau rheolwyr busnes neu arweinwyr ysgolion, fforymau newid hinsawdd ysgolion neu ddigwyddiadau priodol eraill i hyrwyddo recriwtio ac ymgysylltu ac effaith barhaus.