Heating had been on over the holidays for contractors.
Disgrifiad o'r gweithgaredd
Un o'r ffyrdd hawsaf o arbed arian i'ch ysgol a gostwng ei hôl-troed carbon yw sicrhau bod gwres yr ysgol dim ond wedi'i gynnau pan fo angen iddi fod yn gynnes! Yn gyffredinol, nid oes angen gwresogi ysgolion yn llawn ar benwythnosau neu wyliau os nad oes neb yno.
Nwy yw'r ffynhonnell ynni mwyaf cyffredin ar gyfer gwresogi ysgolion, er mae rhai ysgolion yn defnyddio trydan neu olew ar gyfer gwresogi. Mae boeler nwy yn gweithio trwy losgi nwy i wresogi dŵr, sydd wedyn yn cael ei bwmpio o amgylch yr ysgol i wresogi'r rheiddiaduron.
Mae gwres llawer o ysgolion yn cynnau yn rhy gynnar yn y bore. Yn gyffredinol nid oes angen i foeleri ysgol fod ymlaen cyn 5am mewn tywydd oer a 7am pan fydd y tywydd yn fwynach. Os yw gwres eich ysgol yn cynnau cyn hyn, efallai y bydd modd gwneud newidiadau i reolyddion y gwres i arbed ynni a llawer o arian. Mae Sbarcynni yn neilltuo amseroedd agor a chau diofyn ar gyfer eich ysgol. Gall eich Eiriolwr Ynni addasu'r rhain trwy fynd i Reoli ysgol/Rheoli amseroedd ysgol.
Edrychwch ar y ddau graff canlynol ar ddefnydd nwy ysgolion Sbarcynni i weld a allwch chi ateb y cwestiynau canlynol.
Graff A. Ysgol Uwchradd L
L High School gas consumption
A1. Pa bryd ydych chi'n meddwl y mae pobl yn adeiladau'r ysgol? A2. Ar ba amser/amseroedd y mae defnydd nwy yn uchel (dros £6) A3. Beth mae'r boeler yn ei wneud pan fydd yr ysgol ar gau? A4. A oes unrhyw gwestiynau y mae angen i chi eu gofyn i bobl eraill am y data hwn (meddwl am bwy sy'n defnyddio'r ysgol a phryd)? A5. Ydych chi'n meddwl bod y boeler hwn yn gweithio'n effeithiol? Pam neu pam ddim?
Graff B. Ysgol Gynradd SP
SP Primary School gas consumption
B1. Pa bryd ydych chi'n meddwl y mae pobl yn adeiladau'r ysgol? B2. Ar ba amser/amseroedd y mae defnydd nwy yn uchel (dros £2) B3. Beth y mae'r boeler yn ei wneud pan mae'r ysgol ar gau? A oes unrhyw gwestiynau y mae angen i chi ofyn i bobl eraill am y data hwn (meddyliwch am bwy sy'n defnyddio'r ysgol a phryd)? B5. A ydych chi'n meddwl bod y boeler hwn yn gweithio'n effeithiol? Pam neu pam ddim?
C1. Pa ysgol sydd â system reoli gwres gwell? C2. Pe fyddech chi'n Archwilydd Ynni, pa argymhellion fyddech chi'n eu gwneud ar gyfer Ysgol Uwchradd L. C3. A allech chi wneud unrhyw argymhellion i Ysgol Gynradd SP?
* Mae dyddiau gradd (y llinell ddu) yn fesur o faint y mae angen i'r boeler weithio i gynnal tymheredd addas. Mae braidd yn debyg i wrthdro tymheredd. Po isaf yw'r darlleniad gradd-ddiwrnod, po gynhesaf yw'r tymheredd ar yr adeg honno.
Nawr, edrychwch ar y graff canlynol o ddefnydd nwy eich ysgol a gwelwch a allwch ateb y cwestiynau canlynol.
Newid unedau
Archwilio
Nid oes gennym ddigon o ddata ar hyn o bryd i arddangos y siart hwn
Pryd mae'r gwres yn troi ymlaen am y tro cyntaf yn y bore, ac yn diffodd yn y prynhawn?
Pryd mae'r defnydd o nwy yn uchel?
Beth mae'r boeler yn ei wneud pan fydd yr ysgol ar gau?
A oes unrhyw gwestiynau y mae angen i chi eu gofyn i bobl eraill am y data hwn?
Ydych chi'n meddwl bod eich boeler yn gweithio'n effeithiol? Pam, neu pam lai?
Holwch eich gofalwr - a yw'r gwres wedi'i osod i ddod ymlaen ar amser penodol bob dydd, neu a yw'r nodwedd 'cychwyn optimaidd' wedi'i gosod fel bod yr amser cychwyn yn cael ei addasu yn dibynnu ar y tymheredd?
Faint y gallech ei arbed pe baech yn lleihau faint o nwy a ddefnyddir pan fydd yr ysgol ar gau? Bydd angen i'ch ysgol ddefnyddio rhywfaint o nwy bob amser cyn dechrau'r diwrnod ysgol, er mwyn sicrhau ei bod hi'n gynnes pan fydd yr athrawon a'r disgyblion yn cyrraedd, ond gallai'r rhan fwyaf o ysgolion leihau faint o nwy maen nhw'n ei ddefnyddio.
Edrychwch ar y defnydd o nwy dros y penwythnos a'r gwyliau. Ydych chi'n defnyddio'r un faint o nwy ar ddyddiau pan fydd yr ysgol ar gau? A oes pobl yn yr adeilad ar yr adeg honno? Os felly, ble maen nhw? Sut gallech chi gynhesu'r ardaloedd hynny heb gynhesu'r ysgol gyfan?
Yn seiliedig ar eich dadansoddiad o system wresogi sy'n cael ei rheoli'n wael ac un sy'n cael ei rheoli'n dda, pa gamau rydych chi'n meddwl sydd angen i chi eu cymryd yn eich ysgol?
Gwybodaeth uwch
Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion mwy nodwedd ar y rheolydd boeler o’r enw ‘rheolaeth cychwyn optimaidd’, sy’n troi’r boeler ymlaen yn awtomatig yn gynharach yn y dydd pan fo’r tywydd yn oer, ac yn hwyrach pan fo’r tywydd yn gynhesach. Fodd bynnag, mewn llawer o ysgolion nid yw'r broses awtomatig hon yn gweithio'n iawn, ac mae'n troi'r boeler ymlaen yn rhy gynnar. Y rheswm mwyaf cyffredin yw os yw thermostat y boeler wedi'i leoli mewn rhan oer o'r ysgol, fel neuadd yr ysgol neu goridor. Mae thermostat y boeler yn rhoi gwybod i'r boeler beth yw tymheredd yr ysgol. Os yw'r thermostat mewn ardal heb ddigon o reiddiaduron, neu'n agos at ddrws sy'n aml ar agor, ni fydd y thermostat byth yn cyrraedd y tymheredd gwresogi a bennwyd. Mae hyn yn golygu ei fod yn dweud wrth y system wresogi i droi ymlaen yn gynharach ac yn gynharach yn y bore, tra bod yr ystafelloedd dosbarth yn mynd yn boethach ac yn boethach. Gallwch ofyn i ofalwr eich ysgol geisio symud thermostat y boeler i ardal arall o'r ysgol neu osod y thermostat ar dymheredd is.
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i Sbarcynni weithio. Hoffem hefyd ddefnyddio cwcis dadansoddol fel y gallwn ddeall sut rydych yn defnyddio'r gwasanaeth a gwneud gwelliannau.
Dysgu rhagor