Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae ein sefydliad yn defnyddio’r data personol a gasglwn gennych pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan.
Mae Sbarcynni yn casglu’r data canlynol:
Rydym yn casglu data ac yn prosesu data pan fyddwch yn:
Gall Sbarcynni hefyd dderbyn eich data o'r ffynonellau canlynol:
Mae Sbarcynni yn casglu eich data fel y gallwn:
Cyhoeddir data defnydd ynni o dan drwydded agored i Sbarcynni. Mae hyn yn cynnwys data parhaus a hanesyddol. Bydd cyhoeddi’r data ynni o dan drwydded agored yn caniatáu iddo gael ei gyrchu, ei ddefnyddio a’i rannu gan unrhyw un, gan gynnwys y tîm Energy Sparks.
Nid yw cyfeiriadau e-bost cyswllt na rhifau ffôn symudol ar gael yn gyhoeddus ar Sbarcynni. Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â marchnatwyr trydydd parti nac yn ei gwerthu iddynt.
Mae Sbarcynni yn storio'ch data'n ddiogel yng nghanolfannau data Amazon Web Services yn yr UE.
Bydd Sbarcynni yn cadw eich data cyhyd â bod eich ysgol yn gyfranogwr Sbarcynni. Mae gan eich ysgol yr hawl i dynnu caniatâd yn ôl i gyhoeddi eich data i Sbarcynni unrhyw bryd. Gallwch dynnu caniatâd yn ôl drwy anfon e-bost at hello@energysparks.uk.
Mae Sbarcynni yn defnyddio Mailchimp i reoli ein rhestrau o danysgrifwyr cylchlythyr e-bost ac anfon cylchlythyrau at ein defnyddwyr. Darllenwch eu polisi preifatrwydd. Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol ag unrhyw drydydd parti arall oni bai bod gennym eich caniatâd neu fod y gyfraith yn mynnu ein bod yn gwneud hynny.
Hoffai Sbarcynni sicrhau eich bod yn gwbl ymwybodol o'ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i’r canlynol:
Os byddwch yn gwneud cais, mae gennym fis i ymateb i chi. Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau hyn, cysylltwch â ni ar hello@energysparks.uk
Ffeiliau testun yw cwcis a osodir ar eich cyfrifiadur i gasglu gwybodaeth log Rhyngrwyd safonol a gwybodaeth am ymddygiad ymwelwyr. Pan fyddwch yn ymweld â'n gwefan, efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth gennych yn awtomatig trwy gwcis neu dechnoleg debyg.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i allaboutcookies.org.
Mae Sbarcynni yn defnyddio cwcis mewn amrywiaeth o ffyrdd i wella eich profiad ar ein gwefan, gan gynnwys:
Mae yna nifer o wahanol fathau o gwcis, fodd bynnag, mae ein gwefan yn defnyddio:
Gallwch osod eich porwr i beidio â derbyn cwcis, ac mae'r wefan uchod yn dweud wrthych sut i ddileu cwcis o'ch porwr. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, efallai na fydd rhai o nodweddion ein gwefan yn gweithio o ganlyniad.
Mae gwefan Sbarcynni yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Mae ein polisi preifatrwydd yn berthnasol i’n gwefan yn unig, felly os cliciwch ar ddolen i wefan arall, dylech ddarllen eu polisi preifatrwydd.
Mae Sbarcynni yn adolygu ei bolisi preifatrwydd yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 11 Hydref 2019.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am bolisi preifatrwydd Sbarcynni, y data sydd gennym amdanoch chi neu eich ysgol, neu os hoffech arfer un o'ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni yn hello@energysparks.uk
Os dymunwch adrodd am gŵyn neu os ydych yn teimlo nad yw Sbarcynni wedi mynd i'r afael â'ch pryderon mewn modd boddhaol, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
https://ico.org.uk/make-a-complaint/ neu 0303 123 1113.