Defnyddio data byw i ganolbwyntio ar oleuadau

Defnyddia ddata byw i archwilio faint o bŵer y mae goleuadau dy ysgol yn ei ddefnyddio

10 CA2 CA3 CA4 Dinasyddiaeth Mathemateg a Rhifedd Gwyddoniaeth a Thechnoleg
 Gad i ni ganolbwyntio ar oleuadau i weld faint o bŵer y mae goleuadau dy ystafell ddosbarth yn ei ddefnyddio.

Diffodda'r holl oleuadau yn dy ystafell ddosbarth.  Edrycha ar y data byw a gwna nodyn o'r defnydd pŵer byw.

Nawr tro'r holl oleuadau ymlaen.  Sut mae'r defnydd pŵer wedi newid?  Dyma faint o bŵer yr oedd y goleuadau'n ei ddefnyddio yn union ar yr eiliad y cawsant eu troi ymlaen.

Mae'r pŵer hwn yn cael ei fesur yn kW - cilowatiau.

Pe bai tegell, er enghraifft yn cael ei droi ymlaen, efallai y byddai'n defnyddio 3 kW ond os byddi di'n ei ddiffodd eto ar unwaith, ni fyddi di wedi defnyddio llawer o ynni oherwydd dim ond am gyfnod byr o amser y bu'r defnydd (pŵer) hwnnw.   Fodd bynnag, pe bai'r un tegell yn enfawr ac yn cymryd 30 munud i ferwi, yna byddai wedi defnyddio 3 kW am 0.5 awr.

3 kW x 0.5 awr = 1.5 kWh

Faint o ynni fyddai'n cael ei ddefnyddio i gadw'r holl oleuadau yn eich ystafell ddosbarth ymlaen am awr?
Alli di gyfrifo faint o ynni fyddai'n cael ei ddefnyddio pe bai'r holl oleuadau'n cael eu cynnau'n gyson rhwng 9am a 3pm (6 awr)

Os yw dy ysgol yn fawr a bod gen ti oleuadau effeithlon efallai na fyddi di'n gweld llawer o wahaniaeth i gyfanswm y defnydd o bŵer pan fyddi di'n diffodd un set o oleuadau. Ceisia ddiffodd y goleuadau mewn sawl ystafell ddosbarth, coridor neu adeilad i weld a alli di wneud gwahaniaeth.  Cadwa olwg ar faint oedd y defnydd pŵer pan oedd y goleuadau i gyd i ffwrdd a phan oeddent i gyd ymlaen.   

Myfyrio

A oes angen i'r holl oleuadau fod ymlaen ar hyn o bryd? Alli di adael rhai goleuadau i ffwrdd ac arbed ynni?

Ymestyn

Cost gyfartalog trydan yw 15c y kWh.  Faint fyddai'n ei gostio i gadw goleuadau dy ystafell ddosbarth ymlaen am awr?  Am ddiwrnod ysgol (6 awr)?  Alli di gyfrifo faint fyddai’n ei gostio i oleuo’r ardal a archwiliwyd gen ti uchod (sawl ystafell ddosbarth, coridor neu adeilad) ar gyfer diwrnod ysgol? Wythnos? Blwyddyn ysgol (195 diwrnod)?

Gwna'r newid

Sut allet ti ddefnyddio'r wybodaeth hon i berswadio defnyddwyr ysgol i ddiffodd goleuadau pan nad ydynt yn cael eu defnyddio?

Her ychwanegol i ysgolion gyda goleuadau fflwroleuol

Bydd golau fflwroleuol tiwb dwbl safonol 150cm mewn ystafell ddosbarth yn defnyddio tua 140W. 
Bydd golau fflwroleuol tiwb dwbl safonol 180cm yn defnyddio tua 170W. 
Bydd tiwb dwbl LED 150cm yn defnyddio tua 50 W.  

Gan ddefnyddio’r hyn rwyt ti wedi’i ddysgu am faint o drydan y mae dy ysgol yn ei ddefnyddio ar gyfer goleuadau, a sut mae hynny’n cyfrif dros amser a gyda’r gost, a alli di gyfrifo’r arbedion hirdymor y gallet ti eu gwneud pe baet ti'n newid i oleuadau LED drwy’r ysgol gyfan? 

Lawrlwytho adnoddau