
Byddwn yn gweithio gyda chi i gyflwyno gweithdy sy'n cwrdd ag anghenion a diddordebau eich ysgol. Gallwn gynnal gwasanaethau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer yr ysgol gyfan, neu gallwn deilwra’r rhain i weddu i grwpiau oedran neu gyfnodau allweddol penodol. Gall sesiynau gynnwys:
Cyflwynwch eich disgyblion i'r ynni a ddefnyddiwn yn ein cartrefi a'n hysgolion.
Dysgwch sut y gall y newidiadau bach a wnawn yn ein hysgol effeithio ar yr hinsawdd.
Dysgwch sut i gynnal archwiliad ynni a nodi'r dyfeisiau sy'n lleibio ynni o amgylch yr ysgol.
Dysgwch sut i ddadansoddi siartiau gwresogi, ac archwilio tymheredd a gwres yn eich ysgol gan ddefnyddio camera delweddu thermol.
Dysgwch am effaith newid hinsawdd ar Antarctica, a sut gall disgyblion ddefnyddio Sbarcynni i wneud gwahaniaeth.
Addas ar gyfer yr ysgol gyfan, cyfnod allweddol neu grŵp blwyddyn.

