Data a ddefnyddir yn Sbarcynni

Mae Sbarcynni yn defnyddio data agored a gyhoeddir gan ysgolion lleol

Mae Sbarcynni wedi'i adeiladu ar ddata agored. Mae'r holl ddata y gallwch eu gweld yn y cais wedi'u cyhoeddi o dan drwydded agored. Rydych chi'n rhydd i ailddefnyddio'r data at eich dibenion eich hun. Os byddwch chi'n dod o hyd i fewnwelediadau defnyddiol, yna rhannwch nhw gyda ni fel y gallwn helpu i wella'r gwasanaeth.

Os ydych yn ailddefnyddio'r data yna defnyddiwch nhw'n gyfrifol.

Sut mae'r data'n cael eu casglu?

Cesglir y data gan fesuryddion clyfar a osodir mewn ysgolion.

Cyflenwr ynni'r ysgol sy'n berchen ar y mesuryddion ac yn eu gweithredu. Mewn llawer o Awdurdodau Lleol, mae'r ysgolion lleol yn rhan o gynllun ynni'r cyngor ac yn defnyddio un cyflenwr.

Gall fod gan ysgol sawl mesurydd nwy a thrydan. Gellir gosod y rhain mewn adeiladau gwahanol neu i wasanaethu gwahanol rannau o'u heiddo. Ar hyn o bryd nid oes gan bob ysgol fesuryddion clyfar ar gyfer eu mesuryddion nwy a thrydan.

Mae'r darlleniadau mesurydd yn cael eu trosglwyddo i'n storfa ddata ac yna'n cael eu mewnforio i Sbarcynni i greu siartiau a chrynodebau.

Gan fod sawl cam ynghlwm wrth gyhoeddi'r darlleniadau fel data agored, gall fod oedi cyn i'r data fod ar gael. Rydym yn amcangyfrif y bydd yn cymryd rhwng 24-48 awr ar gyfartaledd cyn cyhoeddi’r data.

Sut allwch chi roi gwybod am broblem gyda'r data?

Rhowch wybod am broblem data fel y gallwn gywiro'r data a'r rhaglen

Os sylwch ar rywbeth anarferol neu a allai fod yn anghywir yn y data a ddangosir yn Sbarcynni, rhowch wybod i ni yn uniongyrchol yn y lle cyntaf. Gallwn nodi a yw'r broblem yn ymwneud â sut mae'r data wedi'u mewnforio i'r rhaglen, ein dadansoddeg neu a yw'n broblem gyda'r data crai.

Os ydych yn ysgol sy’n defnyddio Sbarcynni ac nad ydych bellach yn dymuno bod yn rhan o’r gwasanaeth, rhowch wybod i ni a byddwn yn tynnu eich data oddi ar Sbarcynni.

Defnyddio’r data’n gyfrifol

Rydym yn argymell meddwl yn ofalus am sut yr ydych yn dehongli'r data

Mae data agored yn galluogi unrhyw un i gyrchu ac archwilio set ddata. Ond mae'n bwysig deall sut mae set ddata'n cael ei chasglu a beth mae'n ei fesur cyn dechrau ei defnyddio. Mae'r dudalen hon yn rhoi cefndir ychwanegol ar y data a ddefnyddir yn Sbarcynni.

Mae'r graddau y gall ysgol unigol leihau neu wella ei defnydd o ynni yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gall y rhain i gyd effeithio ar sut y gellid neu y dylid dehongli'r data. Os ydych yn ailddefnyddio'r data ynni dylech ystyried beth allai'r ffactorau hyn fod. Er enghraifft:

  • Efallai bod ysgol eisoes wedi cyflawni gostyngiadau sylweddol yn y gorffennol, e.e. fel rhan o gael statws Eco-ysgolion. Efallai y bydd yn rhaid i'r ysgolion hyn weithio'n galetach o lawer i weld gostyngiadau sylweddol. Iddyn nhw y nod yw cadw defnydd yn isel ac yn sefydlog.
  • Mae adeiladau a chyfleusterau ysgolion yn amrywio'n sylweddol. Mae gan rai ysgolion ddefnydd uwch oherwydd bod ganddynt byllau nofio neu gyfleusterau eraill nad oes gan eraill.
  • Defnyddir rhai ysgolion gyda'r nos ac ar benwythnosau ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau cymunedol eraill. Gall hyn newid proffil defnydd ynni'r ysgol.

Gall y tywydd effeithio hefyd ar faint o ynni a ddefnyddir gan yr ysgol dros gyfnod o ddiwrnod neu wythnos.

Yn fyr, mae angen cymryd peth gofal wrth gymharu defnydd ynni hyd yn oed yr un ysgol ar draws gwahanol ddyddiau ac adegau o'r flwyddyn. Mae cymharu ysgolion yn erbyn ei gilydd hefyd yn anodd iawn ac nid yw'n cael ei argymell oni bai eich bod wedi ystyried gwahaniaethau mewn seilwaith, maint a phroffil defnydd yr adeiladau.

Dyma pam rydym wedi canolbwyntio Sbarcynni ar annog ysgolion i ddod yn ynni effeithlon, yn hytrach na chreu rhestr rheng o ysgolion lleol. Mae ein helfennau hapchwarae yn mesur newid ymddygiad yn bennaf, nid defnydd absoliwt o ynni.

Os hoffech gael cymorth i ddehongli'r data, rhowch wybod i ni.