Defnyddio data byw i leihau defnydd trydan brig

Defnyddiwch ddata byw i leihau defnydd trydan brig eich ysgol

20 CA2 CA3 CA4 Dinasyddiaeth Mathemateg a Rhifedd Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Pryd ydych chi'n meddwl bod eich ysgol yn defnyddio'r rhan fwyaf o drydan? Ar gyfer y rhan fwyaf o ysgolion mae hyn yn union ganol dydd.  Beth sy'n digwydd yn eich ysgol rhwng 10am ac 1pm? 

Gan ddibynnu ar faint, nifer y disgyblion ac effeithlonrwydd ynni eich ysgol, efallai ei bod yn defnyddio rhwng 20 a 100 kW o drydan ar gyfartaledd ar adegau prysur.  Po fwyaf o drydan rydych chi'n ei ddefnyddio, y mwyaf o gyfleoedd sydd ar gael i leihau eich defnydd!

Allwch chi herio eich ysgol i leihau ei defnydd trydan brig yng nghanol y dydd?  Gallwch chi ddefnyddio ein harddangosfa fyw i'ch cynorthwyo.

Efallai y byddwch chi am gwblhau'r gweithgaredd hwn yn gyntaf fel eich bod yn gwybod pa offer a goleuadau y gallwch chi eu diffodd.

Gwiriwch yr arddangosfa data byw i weld faint o drydan y mae eich ysgol yn ei ddefnyddio.  Yna ewch o amgylch yr ysgol gan ddiffodd offer a goleuadau nad ydynt yn hanfodol.

Allwch chi leihau'r swm a ddangosir ar yr arddangosfa 1kW?

(Y term am faint o ynni sy'n cael ei ddefnyddio pan fydd popeth y gellir ei ddiffodd, yn cael ei ddiffodd, yw llwyth sylfaenol.  Os ydych chi wedi diffodd yr holl offer a goleuadau nad ydynt yn hanfodol, bydd y llwyth sylfaenol ar ôl gennych.) 

Lawrlwytho adnoddau