Mae dangosfwrdd oedolion eich ysgol yn cynnwys amrywiaeth o fewnwelediadau a gwybodaeth ddefnyddiol am eich defnydd o ynni, gan gynnwys:
- crynodeb o'ch defnydd diweddar o nwy, trydan a stôr-wresogyddion
- crynodeb o'ch cynhyrchiad solar ac allforio os yw'n berthnasol
- rhybuddion ac awgrymiadau ar gyfer ffyrdd y gallwch chi weithredu o amgylch yr ysgol
- siartiau sy'n crynhoi eich defnydd diweddar o nwy, trydan a stôr-wresogyddion ac yn amlygu'r cyfnodau o'r dydd pan fyddwch yn defnyddio'r mwyaf o ynni
- cyfleoedd arbed ynni posib
Rydym hefyd yn rhoi dolenni i chi i ragor o wybodaeth ac arweiniad.
Mae'r dudalen gymorth hon yn rhoi rhywfaint o gefndir am y tabl crynodeb defnydd ynni a ddangosir ar frig eich dangosfwrdd.
Beth mae eich tabl crynodeb yn ei ddangos?
Mae'r tabl ar frig eich dangosfwrdd yn rhoi rhywfaint o wybodaeth allweddol am sut rydych chi'n defnyddio nwy a thrydan. Mae hyn yn cynnwys:
-
Defnydd (kWh) - eich defnydd o ynni, mewn kWh
-
CO2 (kg) - yr allyriadau CO2 a ryddhawyd pan gynhyrchwyd eich ynni
-
Cost - rydym yn pennu cost fras ar gyfer eich defnydd ynni diweddar gan ddefnyddio tariffau cyfartalog a delir gan ysgolion. Os ydych wedi rhoi eich tariffau gwirioneddol i ni bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif ac ymweld â'r tudalennau Cost i weld eich costau gwirioneddol.
-
Arbedion posib - rydym yn cymharu eich defnydd ag ysgol enghreifftiol arferol yn Sbarcynni i bennu arbedion cost posib. Am resymau cywirdeb rydym yn darparu hwn ar gyfer eich defnydd blynyddol yn unig a dim ond pan fydd gennym ddigon o ddata ar gael
-
% Newid - os oes gennym sawl wythnos, neu sawl blwyddyn o ddata, yna gallwn gyfrifo a yw eich defnydd wedi cynyddu neu leihau dros y cyfnod a adroddwyd.
Rydym yn cyfrifo'r ffigurau hyn yn ddyddiol, gan ddefnyddio'r data diweddaraf sydd gennym.
Bydd yr "Wythnos Ddiwethaf" o ddefnydd yn crynhoi eich defnydd yn seiliedig ar yr wythnos galendr ddiwethaf. Mae eich defnydd "Y Flwyddyn Ddiwethaf " yn cwmpasu'r 12 mis blaenorol.
Pam nad yw rhywfaint o ddata ar gael?
Os nad oes gennym ddigon o ddata hanesyddol neu ddiweddar, efallai na fyddwn yn gallu cynnwys yr holl ffigurau yn eich tabl crynodeb.
Mae’r tabl crynodeb yn cynnwys capsiwn sy’n dangos yr ystodau dyddiadau sydd gennym ar gael ar gyfer eich ysgol ar hyn o bryd. Bydd ein cyfrifiadau yn seiliedig ar y wybodaeth hon.42
-
Os nad oes gennym o leiaf blwyddyn o ddata, ni allwn gyfrifo eich defnydd blynyddol. Yn lle hynny byddwn yn dangos dyddiad pan fyddwn yn disgwyl cael digon o ddata
-
Os nad oes gennym o leiaf wythnos o ddata, ni allwn gyfrifo eich defnydd diweddar. Unwaith eto, byddwn yn dangos dyddiad pan fydd hwn ar gael.
-
Os nad oes gennym ddigon o ddata hanesyddol, e.e. sawl wythnos neu sawl blwyddyn o ddefnydd, ni allwn ddangos eich newid %.
-
Nid ydym yn cyfrifo unrhyw arbedion posib yn seiliedig ar eich wythnos ddiwethaf o ddefnydd. Am y cyfnod byr hwn ni allwn roi ffigur cywir. Byddwch bob amser yn gweld "Amherthnasol" ar gyfer y ffigur hwn.
O ran eich defnydd blynyddol, os bu oedi wrth lwytho data diweddar, rydym yn ychwanegu’r data sydd ar gael i ni, ond yn nodi nad yw’n gyfredol drwy arddangos y ffigurau mewn coch.