Unwaith y byddwch wedi dadansoddi defnydd eich ysgol o ynni, wedi cael golwg ar
ein hastudiaethau achos ac efallai wedi dangos y gall eich gweithredoedd helpu i leihau defnydd ynni ac allyriadau carbon yr ysgol, efallai y byddwch am eistedd i lawr gyda’ch Pennaeth a’ch Llywodraethwr Cynaliadwyedd/Cadeirydd y Llywodraethwyr creu Polisi Ynni. Pan fydd pethau'n cael eu hysgrifennu, maen nhw'n cael eu gwneud!
Pethau i'w hystyried wrth ysgrifennu polisi ynni ysgol:
- Pwy sy'n gyfrifol am ynni?
- Sut bydd cynnydd yn cael ei fonitro?
- Sut bydd cynnydd yn cael ei gyfleu i bawb yn yr ysgol?
- A yw eich ysgol yn fodlon buddsoddi amser staff ac arian mewn arbed ynni?
- Sut bydd y polisi ynni yn cysylltu â pholisïau eraill yr ysgol megis caffael (prynu) neu gynllun datblygu'r ysgol?
Syniadau y gallech chi eu cynnwys ym mholisi ynni eich ysgol:
- Creu Tîm Ynni yn cynnwys disgyblion, staff a llywodraethwyr i sicrhau bod y gweithredoedd y penderfynwyd arnynt yn cael eu cyflawni.
- Gosod targed ar gyfer lleihau dy ynni drwy ddangosfwrdd oedolion Sbarcynni.
- Monitro a gwerthuso eich defnydd o ynni yn rheolaidd fel eich bod yn gwybod beth sy'n arferol i'ch ysgol ac yn gallu nodi unrhyw ymchwyddiadau yn y defnydd a all fod oherwydd problemau.
- Creu Cynllun Gweithredu a sicrhau bod yr ysgol gyfan yn ei ddeall ac yn ymwybodol o'r gweithredoedd, gan gynnwys eu cyfrifoldebau unigol.
- Monitro defnydd ynni a chynnydd yn erbyn y targedau yn eich Cynllun Gweithredu.
- Cyfathrebu’n rheolaidd gyda chymuned yr ysgol gyfan, gan roi gwybod iddynt am y cynnydd a wnaed a ffyrdd o wella ymhellach.
Ystyriwch drefnu archwiliad rhithwir Sbarcynni i'ch helpu i ddatblygu eich Cynllun Gweithredu. Bydd ein harchwiliwr yn cefnogi eich staff, disgyblion a llywodraethwyr i nodi'r enillion arbed ynni hawdd i'ch ysgol. Cadw lle
yma.