Mae siartiau Sbarcynni yn ffordd wych o ymarfer edrych ar ddata go iawn.
Cyn i chi ddechrau mae angen i chi wybod beth yw kW a kWh gan fod gan lawer o siartiau Energy Sparks yr opsiwn i ddangos y data ynni mewn kW neu kWh.
Mae kW yn golygu cilowat. Yn syml, 1,000 wat yw cilowat, sy'n fesur o bŵer. Felly, er enghraifft, gellid galw cawod trydan 10,000 wat hefyd yn gawod 10 cilowat.
Mae cilowat-awr (kWh) yn fesur o faint o ynni rydych chi'n ei ddefnyddio. Nid yw'n golygu nifer y cilowatau rydych chi'n eu defnyddio fesul awr. Yn syml, mae'n uned fesur sy'n cyfateb i faint o ynni y byddech chi'n ei ddefnyddio pe baech chi'n cadw teclyn 1,000 wat yn rhedeg am awr. Felly pe baech chi'n troi bwlb golau 100 wat ymlaen, byddai'n cymryd 10 awr i ddefnyddio hyd at 1 kWh o ynni. Mae angen 1,000 wat (1 kW) o bŵer ar ddril 1,000 wat i wneud iddo weithio, ac mae'n defnyddio 1 kWh o ynni mewn awr o ddefnydd parhaus.
Nawr, dyma rai cwestiynau y gallech chi roi cynnig arnyn nhw wrth edrych ar y data:
Defnyddio siartiau llinell
Archwiliech y siartiau trydan dyddiol ar gyfer dy ysgol
Dewch o hyd i'r data trydan ar gyfer eich ysgol ar gyfer dydd Mercher diwethaf. Sawl kW o drydan oeddech chi'n ei ddefnyddio, pan oedd eich defnydd o drydan ar ei uchaf? Pa amser o'r dydd oedd hwn? Beth ydych chi'n meddwl oedd yn digwydd yn yr ysgol ar yr adeg hon? Rydych chi'n gallu clicio ar yr eglurhad i guddio'r data ar gyfer dyddiau eraill.
Allech chi ddarganfod faint o kW o drydan roedd eich ysgol yn ei ddefnyddio am 1am ddydd Mercher diwethaf? Faint o drydan fyddech chi'n disgwyl ei ddefnyddio am 1am pan nad oedd neb yn yr ysgol? Oeddech chi'n synnu faint oedd yn cael ei ddefnyddio?
Newid unedau
Archwilio
Nid oes gennym ddigon o ddata ar hyn o bryd i arddangos y siart hwn
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i Sbarcynni weithio. Hoffem hefyd ddefnyddio cwcis dadansoddol fel y gallwn ddeall sut rydych yn defnyddio'r gwasanaeth a gwneud gwelliannau.
Dysgu rhagor