we have Polish school in on Saturdays and have looked at our energy use -
Disgrifiad o'r gweithgaredd
Beth ydych chi'n meddwl sy'n digwydd yn eich ysgol ar ôl i'r disgyblion a'r staff adael? Mae'n arfer cyffredin mewn gwirionedd i lawer o ysgolion gynnig eu cyfleusterau i grwpiau cymunedol, clybiau chwaraeon a sefydliadau eraill gyda'r nos, ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau
Wel, pam lai? Mae'r grŵp neu sefydliad cymunedol yn cael mynediad i gyfleusterau da ac mae'r ysgol yn derbyn incwm o'r archebion.
Fodd bynnag, gall y sefyllfa hon ei gwneud ychydig yn fwy cymhleth dadansoddi defnydd eich ysgol o ynni. Sut allwch chi wybod a yw'ch defnydd o drydan gyda'r nos yn uchel oherwydd bod myfyrwyr wedi gadael yr holl gyfrifiaduron ymlaen yn yr ystafell TGCh neu oherwydd bod clwb pêl-rwyd pensiynwyr wedi bod yn defnyddio'r gampfa? Neu a yw'r defnydd o nwy yn uchel oherwydd bod yr amserydd boeler yn ddiffygiol neu fod y gymdeithas ddramatig leol wedi bod yn defnyddio'ch cyfleusterau theatr drafftiog ac yn tanio'r gwres.
Gallwch ddefnyddio'ch sgiliau dadansoddi i ddatblygu darlun cliriach o'r effaith y mae defnydd cymunedol yn ei gael ar ddefnydd ynni eich ysgol.
Cyn i chi edrych ar y data, ceisiwch ateb y cwestiynau hyn:
1. Yn seiliedig ar eich gwybodaeth am eich ysgol, pryd ydych chi'n meddwl bod adeiladau ysgol yn cael eu defnyddio gan y gymuned? Yn ystod yr wythnos neu benwythnos? Boreau neu nosweithiau? Efallai nad oes defnydd cymunedol. 2. Pa ddiwrnodau sydd â'r defnydd cymunedol mwyaf? Y lleiaf? 3. Pa rannau o'r ysgol a ddefnyddir gan y gymuned.
Efallai y bydd angen i chi ofyn i'r Staff Swyddfa neu'r Rheolwr Safle eich helpu gyda'r atebion i'r cwestiynau hyn
Edrychwch ar y siartiau hyn, sy'n dangos defnydd wythnosol o drydan. Oeddech chi'n iawn? Os na ddangosir defnydd cymunedol, ond eich bod yn gwybod ei fod yn digwydd yn eich ysgol, mae angen i chi ychwanegu'r amseriadau defnydd cymunedol ar Sbarcynni. Gallwch chi wneud hyn fel defnyddiwr Gweinyddol ar gyfer eich ysgol drwy fynd i Rheoli Ysgol - Golygu Amseroedd Ysgol.
Newid unedau
Archwilio
Nid oes gennym ddigon o ddata ar hyn o bryd i arddangos y siart hwn
Mae'r siart hwn yn dangos y defnydd o drydan i chi o 2 wythnos ymlaen. Gallwch chi glicio ar un o'r dyddiau i weld y defnydd o drydan ar gyfer y diwrnod hwnnw yn fwy manwl. Cliciwch ar y lliwiau i newid p'un a ydych chi'n gweld yr holl ddefnydd o drydan neu dim ond y defnydd ar adegau penodol (e.e. pan fydd yr ysgol ar agor neu ar benwythnosau). Gallwch chi hefyd ddewis gweld y wybodaeth hon fel £, CO2 neu kWh
Nawr rydych chi'n gwybod pryd mae grwpiau cymunedol yn defnyddio'r ysgol a faint o drydan sy'n cael ei ddefnyddio.
Beth allwch chi ei wneud gyda'r wybodaeth hon?
Efallai y byddwch chi am ddewis cyfrifo faint mae eich ysgol yn ei wario ar drydan pan fydd grwpiau cymunedol yno. Trosglwyddwch y wybodaeth hon i'r tîm swyddfa. Mae angen gwybodaeth fel hyn arnynt i wneud yn siŵr eu bod yn codi digon ar grwpiau am ddefnyddio eich cyfleusterau..
Dyma her arall i chi. Mae'r canlynol yn dangos y trydan a ddefnyddir gan ysgol. Edrychwch yn fanwl ar y gwerthoedd ar yr echel Y.
Cwestiwn: Mae'r allyriadau carbon o ddefnydd gyda'r nos o'r ysgol yn uwch nag yn ystod y dydd, pan fydd disgyblion yn yr ysgol. Pam ydych chi'n meddwl bod hyn yn wir?
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i Sbarcynni weithio. Hoffem hefyd ddefnyddio cwcis dadansoddol fel y gallwn ddeall sut rydych yn defnyddio'r gwasanaeth a gwneud gwelliannau.
Dysgu rhagor