English
  • Gweithgareddau
  • Gweithredoedd
  • Ein hysgolion
    Gweld ysgolion Byrddau sgorio Cymharu ysgolion
  • Ein gwasanaethau
    Ar gyfer Ysgolion Ar gyfer Ymddiriedolaethau Aml-Academi Ar gyfer Awdurdodau Lleol Archwiliadau ynni Gweithdai addysg Prisio Hyfforddiant Astudiaethau achos Cylchlythyrau Fideos
  • Amdanom ni
    Cysylltu Tîm Blog Ein cyllidwyr Swyddi Telerau ac amodau Polisi preifatrwydd Diogelu plant Ystadegau ysgolion
  • Cefnogwch ni
  • Rawmarsh Ashwood Primary School
  • 305 o bwyntiau 19eg
  • Dangosfwrdd disgyblion
  • Dangosfwrdd oedolion
  • Cofrestru
  • Mewngofnodi
  1. Ysgolion
  2. Wickersley Partnership Trust
  3. Rawmarsh Ashwood Primary School

Deall llwyth sylfaenol eich ysgol

Rawmarsh Ashwood Primary School, Monday, 25 November 2024
10 Dadansoddwr KS2, KS3

What you did

Disgrifiad o'r gweithgaredd

At ba ddiben mae eich ysgol yn defnyddio trydan?

Gellid diffodd rhai o'r eitemau hynny dros nos ond mae angen cadw rhai ohonynt wedi'u cynnau drwy'r amser (o leiaf yn ystod y tymor).  Gelwir y trydan sydd ei angen i bweru eitemau sy'n rhedeg drwy'r amser yn llwyth sylfaenol.  Gellir mesur hyn gan faint o drydan s'n cael ei ddefnyddio pan fydd yr ysgol yn wag (gyda'r nos, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau).
More than half of this school's energy consumption is when the school is closed!

Pam fyddech chi eisiau cadw talu am drydan pan nad oes unrhyw un yn yr ysgol?  Mae torri i lawr ar hyn yn golygu torri ar gostau ynghyd â gostwng eich ôl troed carbon.

Edrychwch ar y graffiau canlynol.  Mae un yn dangos enghraifft o ysgol yn rheoli ei lwyth sylfaenol yn dda ac un arall â llwyth sylfaenol aneffeithiol.   A allwch chi ddweud p'un yw p'un?
(Mae pob pwynt ar y graff hwn yn dangos y cyfartaledd dros yr oriau y mae ysgol ar gau ar y diwrnod hwnnw).

A allwch chi weld sut mae'r llwyth sylfaenol yn yr enghraifft gyntaf yn amrywio'n eang o ddydd i ddydd?  Mae hyn yn golygu nad yw'r llwyth sylfaenol yn gyson.  O un dydd i'r llall mae symiau gwahanol o drydan yn cael eu defnyddio pan mae'r ysgol ar gau.  Gadewch i ni edrych yn agosach. Mae'r graffiau hyn yn dangos y trydan sy'n cael ei ddefnyddio bob amser rhwng 00:00 a 23:30.



school day
holiday

weekend

 A oes unrhyw beth am y defnydd ynni sy'n edrych yn rhyfedd? 
A allwch chi feddwl pam mae cymaint o ynni yn cael ei ddefnyddio bryd hynny?  Efallai y gallai eich Gofalwr/Rheolwr Safle eich helpu gyda hyn.


Gadewch inni edrych ar yr ail enghraifft eto.  A allwch chi weld sut wnaeth rhywbeth newid yn ddramatig ym mis Mawrth 2021? 
Beth ydych chi'n meddwl yw'r achos dros hyn?
a. Cafodd yr holl eitemau trydanol eu diffodd
b. Cafodd rhywbeth sy'n defnyddio ychydig bach o drydan ei adael ymlaen
c. Cafodd rhywbeth sy'n defnyddio llawer o drydan ei adael ymlaen

 Edrychwch ar eich ysgol

Newid unedau
Archwilio
Nid oes gennym ddigon o ddata ar hyn o bryd i arddangos y siart hwn
Sut wnaethom ni gyfrifo'r ffigurau hyn?


Edrychwch yn ofalus ar y graff.  Sut y mae'r llwyth sylfaenol wedi newid dros amser?
A yw'n newid yn dymhorol (o'r haf i'r gaeaf)? 
A oes unrhyw bigynnau neu gwympiadau anarferol?   
Pa straeon y gallwch chi eu hadrodd wrth edrych ar y data? 
Cliciwch ar y graff a chymharu diwrnod ysgol gyda'r penwythnosau a gwyliau.  A yw'r trydan yn cael ei ddefnyddio ar yr un amser bob dydd?

Atebion

At ba ddiben mae eich ysgol yn defnyddio trydan?


Golau, llungopiwyr, cyfrifiaduron, peiriannau coffi, oergelloedd a rhewgelloedd, troliau gliniadur/llechen, gweinyddion TGCh, oeryddion dŵr, byrddau gwyn rhyngweithiol, cyfarpar technegol, systemau sain, setiau teledu, argraffyddion, ffonau, 


Edrychwch ar yr ail enghraifft eto.  A allwch chi weld sut y newidiodd rhywbeth yn ddramatig ym mis Mawrth 2021?  Beth oedd yr achos dros hyn, yn eich barn chi?


Gwres trydanol wedi'i adael ymlaen.  Pe na bai rhywun wedi sylwi ar hyn, byddai wedi costio £2600 ychwanegol i'r ysgol yn ystod y flwyddyn.  Dysgwch ragor am hynny a sut y datryswyd y broblem yn ein hastudiaeth achos Rhybyddion.


Pob gweithgaredd
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i Sbarcynni weithio. Hoffem hefyd ddefnyddio cwcis dadansoddol fel y gallwn ddeall sut rydych yn defnyddio'r gwasanaeth a gwneud gwelliannau. Dysgu rhagor

Dolenni Cyflym

  • Gweithgareddau
  • Gweithredoedd
  • Gweld ysgolion
  • Byrddau sgorio
  • Cysylltu

Gwasanaethau

  • Archwiliadau ynni
  • Gweithdai addysg
  • Hyfforddiant
  • Dysgu rhagor
  • Archebwch demo
  • Astudiaethau achos

Dolenni Eraill

  • Swyddi
  • Blog
  • Ystadegau ysgolion
  • Setiau data
  • Agor data

Termau Cyfreithiol

  • Telerau ac amodau
  • Polisi preifatrwydd
  • Cwcis
  • Polisi diogelu plant

Cofrestru am y Cylchlythyr

Cael y newyddion diweddaraf gan Sbarcynni yn eich mewnflwch Ni fyddwn byth yn rhannu eich e-bost ag unrhyw un arall.
Cyhoeddir cynnwys ar y wefan hon o dan Drwydded Creative Commons Attribution 4.0.
Mae Sbarcynni yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, cofrestriad 1189273.