Our teaching and learning sustainability lead did an Assembly on climate change and what it means to us all and what we can do to help, she asked for volunteers to join our newly set up Eco team and that was the start of our journey
Disgrifiad o'r gweithgaredd
Bydd gan rai ysgolion Eco-bwyllgor neu debyg yn barod a fydd yn ymgymryd â'r rôl hon. Gall ysgolion eraill ddewis penodi dosbarth i arwain ar effeithlonrwydd ynni. Penderfynwch pa staff fydd yn cefnogi eich tîm.
Yn y rhan fwyaf o ardaloedd gall Sbarcynni helpu i gefnogi eich Tîm Ynni gydag ymweliadau neu sesiynau ar-lein gan addysgwyr proffesiynol hyfforddedig, mentoriaid ynni gwirfoddol neu gyda Llysgenhadon STEM. Archebwch weithdy yma.
Addysgwch eich tîm am newid hinsawdd ac ynni trwy gyflawni rhai o'r gweithgareddau Archwiliwr Sbarcynni. Gwnewch yn siŵr eu bod yn wybodus iawn am bwysigrwydd ynni a newid yn yr hinsawdd, ar lefel briodol i'w hoedran. Mae’n bwysig bod disgyblion yn cael mewnbwn sylweddol i’r broses gwneud penderfyniadau ac yn cymryd perchnogaeth o unrhyw gynlluniau arbed ynni a wneir.
Trefnwch yr amseroedd a'r lleoedd i'ch tîm gyfarfod, gan gynnwys pryd y byddant yn adrodd i dîm rheoli'r ysgol gan gynnwys cynrychiolwyr llywodraethwyr. Gallai eich tîm rannu'n sawl is-grŵp yn canolbwyntio ar wahanol agweddau ar arbed ynni.
Bydd eich Tîm Ynni yn gyfrifol am adolygu'r sefyllfa bresennol o ran defnyddio ynni (gan ddefnyddio'r siartiau Sbarcynni), datblygu cynllun gweithredu arbed ynni, a monitro, cofnodi a lleihau eich defnydd o ynni. Byddant yn arbennig o gyfrifol am gyfathrebu â chymuned eich ysgol, cynnal ymgyrchoedd diffodd a mesur faint o ynni sy'n cael ei arbed neu ei wastraffu gan ymddygiad disgyblion a staff. Efallai y bydd y grŵp yn penderfynu cynnal ymgyrch effeithlonrwydd ynni proffil uchel yn cynnwys yr ysgol gyfan, o bosibl diwrnod pŵeru i lawr/cydio mewn siwmper neu bythefnos diffodd. Bydd angen i'r tîm hefyd ailystyried materion ynni yn rheolaidd i sicrhau bod y newidiadau a wneir yn cael eu cynnal dros amser.
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i Sbarcynni weithio. Hoffem hefyd ddefnyddio cwcis dadansoddol fel y gallwn ddeall sut rydych yn defnyddio'r gwasanaeth a gwneud gwelliannau.
Dysgu rhagor