Mae llawer o ysgolion yn cynnig prydau heb gig a rhai sy'n seiliedig ar blanhigion yn rheolaidd, fodd bynnag mae nifer cynyddol o bobl yn dewis rhoi'r gorau i gig am un diwrnod neu fwy yr wythnos - llawer oherwydd y difrod amgylcheddol a achosir gan gynhyrchu cig. Os nad yw eich ysgol eisoes yn cynnig diwrnod di-gig, beth am gynnal ymgyrch yn eich ysgol i annog eich arlwywyr a chymuned yr ysgol i gofleidio diet carbon isel un diwrnod yr wythnos.
Ac os oes gennych un diwrnod heb gig yn barod, beth am weld a allech chi ei wneud yn ddau!