Gall ceginau ysgol ddefnyddio llawer o drydan. Er mwyn cynhyrchu cannoedd o giniawau i'w gweini mewn cyfnod byr iawn o amser, mae angen offer ar raddfa ddiwydiannol ar ysgolion.
Gadewch i ni edrych ar y data o ysgolion gyda cheginau ac ysgolion hebddynt. Cymharwch graffiau Ysgolion A a B â rhai Ysgolion C, D ac E. Mae gan yr ysgolion mewn un grŵp gegin ar y safle, nid oes gan y gweddill. Allwch chi weld p'un yw p'un?
Grŵp 1
Grŵp 2
Crëwch holiadur i ofyn i staff eich cegin am eu defnydd o ynni. Efallai y byddwch chi am ofyn cwestiynau fel:
Pryd fyddwch chi'n cyrraedd ac yn gadael?
Pa offer ydych chi'n eu troi ymlaen pan fyddwch chi'n cyrraedd?
Faint o'r gloch mae'r poptai/peiriannau golchi llestri/sterileiddwyr/cyflau awyru/tegelli yn cael eu troi ymlaen a'u diffodd?
Pryd mae oergelloedd a rhewgelloedd yn cael eu diffodd?
Atebion Mae gan yr ysgolion yng Ngrŵp A geginau. Mae eu defnydd o ynni fel arfer yn uchel tan amser cinio ac wedyn yn gostwng.
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i Sbarcynni weithio. Hoffem hefyd ddefnyddio cwcis dadansoddol fel y gallwn ddeall sut rydych yn defnyddio'r gwasanaeth a gwneud gwelliannau.
Dysgu rhagor