Dadansoddi defnydd o ynni eich ysgol - pan fydd disgyblion yn yr ysgol

Defnyddiwch eich gwybodaeth am y diwrnod ysgol a data eich ysgol i ddadansoddi pryd mae trydan yn cael ei ddefnyddio gan ddisgyblion

10 CA1 CA2 CA3 CA4 CA5 Dinasyddiaeth
Defnyddiwch eich gwybodaeth am y diwrnod ysgol a data eich ysgol i ddadansoddi pryd mae trydan yn cael ei ddefnyddio gan ddisgyblion. Adolywch rai siartiau defnydd ynni ar gyfer eich ysgol ar sail golwg dydd.


Pa amser mae disgyblion yn cyrraedd?  A oes cynnydd yn y defnydd o drydan pan fydd disgyblion yn cyrraedd?  A yw'r holl oleuadau, offer a thechnoleg eisoes wedi'u troi ymlaen gan staff?  Os bydd y defnydd o drydan yn gostwng, pam gallai hynny fod?

Beth sy'n digwydd amser egwyl?  A oes gostyngiad yn y defnydd o drydan neu a yw'n cynyddu?  Pam gallai hynny fod?  Ydy dyfeisiau wedi'u diffodd?  A allai mwy o offer gael eu troi ymlaen yn ystod y cyfnod hwnnw?

Pryd ydych chi'n cael gwasanaethau ysgol gyfan?  Ydych chi'n gweld gwahaniaeth yn y defnydd o drydan ar yr adegau hynny?

Faint o’r gloch mae’r diwrnod ysgol swyddogol yn dod i ben a mwyafrif y disgyblion yn mynd adref? A yw hyn yn cael ei adlewyrchu yn y data? 

Pa mor hir mae'n ei gymryd i'ch ysgol ddisgyn i'w lefel llwyth sylfaenol?
(Y llwyth sylfaenol trydan yw’r trydan sydd ei angen i redeg yr holl offer na ellir eu diffodd dros nos; yn ddelfrydol dylai’r bariau glas sy’n dangos defnydd dros nos ar y siart fod tua’r un uchder.)

Oes gennych chi glybiau ar ôl ysgol?  Allwch chi weld y rhain yn cael eu hadlewyrchu yn y data?
Pryd mae staff yr ysgol yn mynd adref?  A yw hyn yn glir o edrych ar y data?

Cymharwch ddiwrnodau gwahanol yr un wythnos i weld a oes gwahaniaeth mewn patrymau ymddygiad.