Cynnal dadl dawel ar ynni

Cyfle i ddisgyblion ystyried a dadlau materion yn ymwneud â defnyddio a chynhyrchu ynni

10 CA3 CA4 Dinasyddiaeth Y Dyniaethau Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Mae dadl dawel yn galluogi myfyrwyr i archwilio syniad yn fanwl. Mae'n ffordd wych o sicrhau bod pawb yn y dosbarth yn cael cyfle i gyfrannu at bwnc. 

Yn y ddadl dawel, bydd eich disgyblion yn ysgrifennu eu hymatebion i ysgogiad, datganiad yn yr achos hwn (gall dyfynodau, cwestiynau neu ddelweddau fod yn effeithiol hefyd).  Mae cael amser i feddwl ac ymateb trwy ysgrifennu yn unig yn arafu eu meddwl ac yn eu helpu i ganolbwyntio ar farn pobl eraill. 

Gweler isod am wybodaeth ar sut i gynnal dadl dawel.

  • Dylai fod yn flaenoriaeth i lywodraethau symud o ffynonellau ynni anadnewyddadwy i ffynonellau ynni adnewyddadwy 
  • Mae gan bobl hawl i ddefnyddio cymaint o ynni ag y dymunant
  • Mae gennym yr holl atebion ynni sydd eu hangen arnom
  • Mae ynni niwclear yn hanfodol i leihau dibyniaeth ar danwydd ffosil
  • Mae lleihau ein defnydd o ynni yn sylweddol yn ddigon i atal newid yn yr hinsawdd
  • Dylai gwledydd gynhyrchu eu hynni eu hunain
  • Mae ynni ar gyfer gwresogi a choginio yn Hawl Dynol a dylai fod am ddim i bawb

Bydd angen:
Dalennau A1/2 o bapur siwgr
Marciwr fesul unigolyn
Mae'r ysgogiad eisoes wedi'i ysgrifennu ar bob tudalen o bapur
Disgyblion mewn grwpiau


1. Yn dawel, mae pob disgybl yn darllen y datganiad ar bapur mawr eu grŵp.  Ar ôl iddyn nhw ei ddarllen, maen nhw i ysgrifennu eu sylw neu gwestiwn ar y papur mawr.  Gallant ymateb i sylwadau a chwestiynau ei gilydd drwy ysgrifennu, yn dawel.  Rhaid i'r sgwrs ysgrifenedig ymateb i'r ysgogiad ond gall y drafodaeth grwydro i ble mae'r disgyblion yn mynd â hi. Gall mwy nag un disgybl ysgrifennu ar y papur ar yr un pryd a gallant dynnu llinellau yn cysylltu syniadau a chwestiynau ac atebion.  Dylai'r cam hwn fod yn 10-15 munud.

2. Yn dawel o hyd, mae disgyblion yn gadael eu grwpiau ac yn cerdded o gwmpas symbyliadau darllen ac ati ac ymatebion ar bapurau mawr eraill.  Gallant ysgrifennu sylwadau, atebion neu gwestiynau pellach i'w hystyried ar bapurau mawr eraill.  Yn dibynnu ar dy grŵp o ddisgyblion a’u hymatebion gallwch wneud i’r cam hwn bara cyhyd ag y bo angen.

3. Mae disgyblion yn dychwelyd at eu papur mawr eu hunain a'u symbyliad cychwynnol.  Nawr gallant drafod yn uchel y drafodaeth o'u blaenau, eu sylwadau eu hunain ac ymatebion disgyblion eraill. 

4. Trafodwch fel dosbarth. Mae'n bosib y byddwch chi am ganolbwyntio ar ddatganiadau unigol neu ofyn beth a ddysgodd y disgyblion o'r gweithgaredd.  Gellir defnyddio'r amser hwn i ymchwilio ymhellach i ymatebion y disgyblion i rai testunau.  Efallai y byddwhc chi am annog disgyblion i fyfyrio ar y broses yn eu dyddlyfrau neu i nodi ac ymhelaethu ar ysgogiad neu drafodaeth a oedd yn wirioneddol ennyn eu diddordeb.