Byddwch yn Arwr Ynni

Gweithgaredd i ddisgyblion cynradd feddwl pam ei bod yn bwysig brwydro yn erbyn newid hinsawdd trwy ddefnyddio llai o ynni a theimlo eu bod wedi’u grymuso i weithredu fel ‘Rhyfelwyr Ynni’

10 CA1 CA2 Dinasyddiaeth Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Cyflwyniad 
Mae’r gweithgaredd hwn wedi’i gynllunio i ddisgyblion cynradd feddwl pam ei bod yn bwysig brwydro yn erbyn newid hinsawdd trwy ddefnyddio llai o ynni a theimlo eu bod wedi’u grymuso i weithredu fel ‘Arwyr Ynni’. 

Nodau
Bydd disgyblion yn: 
  • meddwl am ynni ac arwyr
  • dysgu pam mae defnyddio llai o ynni yn dda i'r blaned
  • ystyried sut i ddefnyddio ynni yn synhwyrol ac yn gyfrifol er mwyn amddiffyn y blaned rhag newid yn yr hinsawdd drwy ddod yn Arwyr Ynni.

Gweithgaredd 1
Yn gyntaf, dangoswch y llun Arwyr Ynni i'r disgyblion.  Gofynnwch iddynt ddweud wrthych chi beth maen nhw'n gallu ei weld. Tynnwch sylw at y tyrbinau gwynt, y clogyn gyda'r paneli solar arno a'r gadair olwyn a yrrir gan y gwynt. Gofynnwch i’r disgyblion beth maen nhw’n ei wybod am ffynonellau ynni adnewyddadwy. Dywedwch wrthynt y gallwn ni wneud trydan o ynni'r haul a'r gwynt. Gofynnwch pam eu bod nhw'n meddwl bod gan y cymeriad sabr golau. Beth maen nhw'n ei wybod am olau? 

Nawr gofynnwch i’r disgyblion ysgrifennu tri gair maen nhw’n meddwl amdanyn nhw wrth glywed y gair ynni a thri gair pan maen nhw’n clywed y gair arwr. Gallech chi roi'r geiriau hyn ar y bwrdd gwyn neu ddefnyddio ipad i'w rhoi ar gwmwl geiriau fel mentmetre (www.menti.com). 

Dywedwch wrth y disgyblion fod ynni ym mhobman – mae’n rhoi pŵer i ni ar gyfer ein gwres, ein goleuadau a’n hoffer a bod arwyr yn gryf, yn ddewr, yn wydn ac yn bwerus eu hysbryd, efallai bod gan rai bŵer arbennig. Mae'r rhan fwyaf yn ddoeth a deallus.
Gofynnwch i’r disgyblion feddwl pam y gallen nhw fod eisiau rhoi’r ddau air hyn at ei gilydd? Pam mae angen i ni frwydro am ynni?

Gweithgaredd 2

Gofynnwch i’r disgyblion fyfyrio ar beth maen nhw’n defnyddio ynni ar ei gyfer gartref ac yn yr ysgol. Pa offer maen nhw'n eu defnyddio sy'n dibynnu ar drydan? Pa drafnidiaeth maen nhw'n ei ddefnyddio sy'n defnyddio olew fel petrol neu ddiesel?

Gofynnwch i’r disgyblion beth allwn ni wneud llai ohono i helpu newid hinsawdd? Beth ydyn ni'n ei wneud sy'n defnyddio tanwyddau ffosil? Efallai y gallai disgyblion gerdded mwy, neu reidio beic i leoedd lleol. Efallai y gallent chwarae y tu allan mwy a chwarae gemau cyfrifiadurol llai. 

Gweithgaredd 3

Nawr eu bod yn gwybod ychydig mwy am ynni ac arwyr gofynnwch i'r disgyblion dynnu llun eu Arwyr Ynni eu hunain (gan ddefnyddio'r templed y gellir ei lawrlwytho os dymunwch). O amgylch y pen ychwanegwch yr hyn y mae Arwyr Ynni yn ei wybod, o amgylch y galon yr hyn y mae Arwyr Ynni yn ei deimlo, ac o amgylch y dwylo a'r traed yr hyn y gall Arwyr Ynni ei wneud.

Gofynnwch i'r disgyblion rannu eu Arwyr Ynni a'u cyflwyno i'r dosbarth.




Lawrlwytho adnoddau