Dysgu am Ynni Cymunedol

Dysgu am y cysyniad o fentrau cydweithredol ynni lleol

20 CA2 CA3 CA4 Dinasyddiaeth Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae’r adnodd hwn, gan Egni, un o’n partneriaid, yn cyflwyno disgyblion i’r rôl y gall ynni adnewyddadwy ei chwarae wrth leihau allyriadau carbon a sut mae elusennau ynni cymunedol wedi sefydlu i helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd mewn cymunedau lleol.  Mae’r adnodd hwn yn canolbwyntio’n arbennig ar enghraifft Awel Aman Tawe, elusen ym mhen uchaf Dyffryn Aman ger Abertawe.  Bydd yr adnodd hwn yn mynd â disgyblion ar daith lle gallant weld bod unigolion, cymunedau a llywodraethau yn chwarae rhan bwysig wrth leihau allyriadau carbon.

Gweithgaredd 1: Ynni adnewyddadwy a newid hinsawdd: ble rydych chi'n sefyll?
Gweithgaredd 2: Awel Aman Tawe
Gweithgaredd 3: Mentrau Cydweithredol
Gweithgaredd 4: Gweithredu yn COP

Lawrlwytho adnoddau