Gwnewch offer atal drafftiau

Trawsnewid hen bâr o deits yn gi selsig annwyl a fydd yn cadw drafftiau allan o dan y drysau

5 CA1 CA2 CA3
Gwnewch ataliwr drafft ci selsig
Gallwch chi drawsnewid hen bâr o deits yn gi selsig annwyl, a fydd yn cadw drafftiau allan o dan y drysau. Yn hawdd i'w wneud, ychydig iawn o wnïo sydd ei angen a gall plant o unrhyw oedran roi cynnig arno, yn enwedig os yw'r llygaid a'r clustiau wedi'u gludo ymlaen. 

Defnyddiau

• Hen bâr o deits gwlanog
• Gwlan
• Sgrapiau o ffabrig
• Dau fotwm
• Nodwydd ac edau
• Stwffin neu hen sanau (glân!)
• Hen fenig neu sanau plant
• Siswrn

1. Torrwch un o'r coesau o hen bâr o deits gwlanog mor uchel â phosib gyda phâr o siswrn.

2. Llenwch goes y teits gyda stwffin (neu beth bynnag rydych chi'n ei ddefnyddio) i ffurfio siâp selsig. Gadewch ychydig heb ei stwffio ar y diwedd.

3. Torrwch ddarn o wlân a'i glymu'n gadarn o amgylch diwedd y selsig, gan orffen gyda chwlwm dwbl i'w ddal yn ei le.

4. Ar y pen arall, clymwch ddarn arall o wlân o amgylch bysedd y traed i wneud trwyn ci mawr. Eto clymwch gwlwm i ddal y siâp yn ei le.

5. Gwnïwch hen faneg neu hosan plant ar bob ochr i'r selsig ychydig uwchben y trwyn i wneud clustiau'r ci.

6. Gwnïwch y botymau ar y selsig i wneud llygaid. Torrwch stribed o ffabrig neu defnyddiwch ddarn o ruban i glymu o amgylch gwddf y ci i wneud ei goler.