Darganfod yn union faint o fwyd y mae eich ysgol yn ei wastraffu

Cynnal archwiliad amser cinio i nodi faint o wastraff bwyd sy'n cael ei gynhyrchu gan eich ysgol

30 CA1 CA2 CA3 CA4 CA5 Dinasyddiaeth Mathemateg a Rhifedd
Pe baech chi'n cymryd yr HOLL wastraff a gynhyrchir mewn ysgol - dyna bopeth a waredir gan y disgyblion a'r staff, faint o hwnnw fyddai'n wastraff bwyd?

10-20%    30-50%   70-90%?

Os oeddech chi'n meddwl rhwng 30-50% yna rydych chi'n gywir.   Mae gwastraff bwyd yn broblem enfawr i ysgolion - ac i'r hinsawdd.  Effaith amgylcheddol bwyd sy'n cael ei wastraffu'n ddiangen (gan gynnwys yr ynni sydd ei angen i gynhyrchu, prosesu, cludo, storio a gwaredu) yw 253,000 tunnell bob blwyddyn.  Dyma’r un faint o garbon a gynhyrchir gan fwy nag 80,000 o geir mewn blwyddyn! 

Mae mynd i'r afael â gwastraff bwyd yn eich ysgol yn ffordd wych o leihau allyriadau carbon eich ysgol.

Mae'r gweithgaredd hwn yn darparu popeth sydd ei angen arnoch chi i asesu faint o wastraff bwyd sy'n cael ei greu gan eich cinio ysgol.   

Cyn i chi ddechrau eich archwiliad, edrychwch ar sut mae eich ysgol yn casglu ac yn cael gwared ar wastraff bwyd amser cinio ar hyn o bryd.  Mae’r gweithgaredd sylfaenol yn edrych ar wastraff amser cinio o un neuadd fwyta yn unig, ond fe allech chi ddefnyddio’r gweithgaredd manwl i edrych ar wastraff bwyd o becynnau bwyd, yn y maes chwarae/amser egwyl neu os yw eich cantîn/caffi ar agor ar wahanol adegau yn ystod y dydd, faint o wastraff bwyd sy'n cael ei gynhyrchu gan staff y gegin sy'n gwneud y bwyd neu hyd yn oed y gwastraff bwyd sy'n cael ei gynhyrchu yn eich dosbarthiadau Technoleg Bwyd.

Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau'r archwiliad, gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau'r gweithgaredd Dadansoddwr i gyfrifo'r allyriadau carbon sy'n cael eu creu gan eich gwastraff bwyd.

Peidiwch ag anghofio cynnal yr archwiliad hwn cyn gwneud unrhyw newidiadau gwastraff bwyd yn eich ysgol.  Byddwch chi am archwilio tair gwaith: cyn i chi gymryd camau, yn syth ar ôl i chi gymryd camau a sawl mis yn ddiweddarach, i bennu'r effaith barhaol.