A yw cegin dy ysgol yn gyfeillgar i'r blaned?

Mae’r holiadur hwn yn fan cychwyn cyffredinol i ddisgyblion weithio gyda staff y gegin i leihau ôl troed carbon ac effaith amgylcheddol cegin eu hysgol.

10 CA1 CA2 CA3 CA4 CA5 Dinasyddiaeth
Dywedir bod byddin yn gorymdeithio ar ei stumog ac mae'r un peth yn wir am ysgolion.  Gellir dadlau mai amser cinio a chiniawau ysgol yw un o'r rhannau pwysicaf - a charbon-ddwys o bosibl! - o'ch diwrnod.

Bwyd.  Gwastraff. Ynni. Pecynnu.  Mae llawer o gyfleoedd yma i dy ysgol fod yn garedig i'r blaned. 

Dere o hyd i amser da i eistedd i lawr gyda staff y gegin a gweld pa mor gyfeillgar i'r blaned yw cegin dy ysgol.  Bydd y cwestiynau hyn yn dy helpu i feddwl am effeithlonrwydd ynni, gwastraff bwyd, dwyster carbon dewisiadau bwydlen a materion amgylcheddol eraill.  Rhywbeth i feddwl amdano!

Lawrlwytho adnoddau