Deall o ble mae nwy'r DU yn dod

Darganfod o ble rydym yn cael ein nwy a chyflwyno'r data fel map cloropleth

10 CA3 CA4 Y Dyniaethau
Yn y DU rydym yn defnyddio nwy yn ein cartrefi a'n hysgolion yn bennaf ar gyfer gwresogi a choginio. Mae 85% o gartrefi’r DU yn defnyddio gwres canolog nwy  er enghraifft.  Fodd bynnag, defnyddir nwy hefyd yn y DU i wneud trydan ac at ddibenion diwydiannol.

Yn 2020, defnyddiwyd 38% o’r galw am nwy yn y DU ar gyfer gwresogi domestig, 29% ar gyfer cynhyrchu trydan ac 11% ar gyfer defnydd diwydiannol a masnachol.

Nid ansefydlogrwydd byd-eang yn unig sy’n gyfrifol am brisiau uchel a phrinder nwy, fel y gwelwyd yn y rhyfel yn yr Wcráin.  Fe wnaeth gaeafau oerach, fel un 2021, ddisbyddu cyflenwadau gan wthio prisiau'n uwch.

Fodd bynnag, nid oes amheuaeth y bydd prisiau nwy yn parhau i godi ac mae gwrthdaro byd-eang yn gwaethygu hynny.

Gosodwch yr her i'ch disgyblion ddarganfod o ble rydyn ni'n dod o hyd i'n nwy a gofynnwch iddyn nhw gyflwyno hwn fel map cloropleth.


Mae map cloropleth yn fap sy'n defnyddio lliw i liwio i ddangos data. Yn yr enghraifft hon isod, mae gwledydd wedi'u lliwio yn ôl faint o lythrennau sydd yn yr enw.



Os ydych chi'n newydd i greu mapiau cloropleth, mae gan y wefan hon gyngor defnyddiol.

Lawrlwytho adnoddau