Archwilio'r allyriadau carbon o gynhyrchu trydan y DU

Cyfrifo llwyth carbon y Grid Cenedlaethol (y cymysgedd o danwydd a ffynonellau ynni sy'n cynhyrchu trydan ar gyfer ein gwlad)

10 CA3 CA4 Y Dyniaethau Mathemateg a Rhifedd
Pa un sy'n wahanol?

Nawr edrychwch ar y tri siart hyn sy'n dangos yr un cyfnod o amser o un ysgol.  Mae'r siart cyntaf yn dangos cost y trydan, mae'r ail yn dangos faint o drydan sydd wedi'i ddefnyddio mewn kWh ac mae'r trydydd yn dangos y carbon deuocsid a allyrrir gan y defnydd hwnnw.

Pa un o'r siartiau hyn sydd ddim yn debyg i'r lleill? 


Efallai eich bod wedi sylwi, er bod y siartiau cost a kWh yn cyd-fynd yn eithaf agos, y gall allyriadau carbon y defnydd o drydan mewn ysgolion fod yn dra gwahanol weithiau.  Cyn darllen ymlaen, meddylia pam y gallai hynny fod.

Mae cyfrifo'r allyriadau carbon ar gyfer defnyddio nwy yn syml.  Mae'n fwy cymhleth wrth gyfrifo'r allyriadau carbon o drydan oherwydd bod y trydan a ddefnyddiwn yn cael ei gynhyrchu o amrywiaeth o danwydd a ffynonellau, ac o ddydd i ddydd - o funud i funud mewn gwirionedd - mae hyn yn newid.

Gweithiwch drwy'r fideo gweithgaredd, edrychwch ar y wefan wych dwyster Carbon ac yna rhowch gynnig ar ein taflen weithgaredd.

Amcanion
  • defnyddio strategaethau cyfrifo priodol i ddatrys problemau cynyddol gymhleth
  • Datrys problemau lluosi gan weithio gyda rhifau cyfan a ffracsiynau degol i dri lle degol