Ai pympiau gwres yw'r ateb?

Dysgu beth yw pympiau gwres a pham eu bod yn disodli boeleri nwy

20 CA2 CA3 CA4 CA5 Dinasyddiaeth Mathemateg a Rhifedd Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae gennych chi bwmp gwres yn eich tŷ yn barod. Ydych chi'n gwybod ble mae e?

Eich oergell chi yw hi! Mae oergell yn tynnu gwres allan o'r aer y tu mewn iddi ac yn ei symud i'r tu allan. Mae'r pympiau gwres sy'n cael eu defnyddio i wresogi cartrefi yn gweithio'r ffordd arall, maen nhw'n tynnu gwres o'r aer y tu allan ac yn ei symud i mewn i adeilad. Yn rhyfeddol, gall hyn hyd yn oed weithio pan fydd tymheredd yr aer y tu allan yn oer iawn, oherwydd mae'n dal i ddal llawer o ynni.

Dywed y Pwyllgor ar Newid yn yr Hinsawdd mai pympiau gwres yw’r dyfodol ar gyfer sut yr ydym yn gwresogi ein cartrefi, maent eisoes yn brif ffynhonnell gwres mewn cartrefi yn Norwy. Ond nid yw llawer o bobl yn y DU yn gwybod llawer am bympiau gwres mewn gwirionedd. Felly, beth sydd yna i ni ei wybod?

Defnyddiwch ein taflen weithgaredd i ddysgu rhagor.


Lawrlwytho adnoddau