Goleuadau'r Gwyliau

Gweithgaredd i'w gwbhau yn ystod y gwyliau gan ddefnyddio monitor ynni teclyn a goleuadau bach

5 CA1 CA2 CA3 CA4 Dinasyddiaeth Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae'r tŷ cyffredin gyda 7 llinyn o oleuadau wedi'u gadael ymlaen am 6 awr y dydd drwy gydol mis Rhagfyr yn gwario bron i £9 o drydan ar oleuadau tylwyth teg.

yda goruchwyliaeth oedolyn, plygia dy oleuadau tylwyth teg i mewn i fonitor offer wedi'i blygio i'r wal. Os nad oes gen ti fonitor offer, edrycha ar dy fesurydd deallus. Os nad oes unrhyw eitemau trydanol eraill yn rhedeg a fydd yn achosi newidiadau yn dy ddefnydd o drydan, mae hon yn ffordd dda o weld faint o drydan y mae'r goleuadau'n ei ddefnyddio.  

Edrycha ar yr arddangosfa ar dy fonitor neu fesurydd. Allech chi weld faint o ynni mae'r goleuadau'n ei ddefnyddio? Pa gwestiynau allech chi eu gofyn am y defnydd o ynni? A yw goleuadau lliw yn defnyddio mwy o ynni? A yw llinynnau hirach o oleuadau yn defnyddio mwy o ynnu na rhai byrrach? A yw goleuadau'n defnyddio mwy o ynni pan fyddant yn fflachio neu'n llonydd? A yw maint y goleuadau unigol yn gwneud gwahaniaeth i faint o ynni a ddefnyddir? Trafodwch dy atebion gyda oedolyn.

Lawrlwytho adnoddau