English
  • Gweithgareddau
  • Gweithredoedd
  • Ein hysgolion
    Gweld ysgolion Byrddau sgorio Cymharu ysgolion
  • Ein gwasanaethau
    Energy management tool Archwiliadau ynni Gweithdai addysg Hyfforddiant Astudiaethau achos Cylchlythyrau Fideos
  • Amdanom ni
    Cysylltu Tîm Blog Our impact Ein cyllidwyr Cefnogwch ni Swyddi Telerau ac amodau Polisi preifatrwydd Diogelu plant Ystadegau ysgolion
  • Help
  • Cofrestru
  • Mewngofnodi
  1. Gweithgareddau disgyblion
  2. Gweithredwr newid
  3. Cynnal ymgyrch diffodd

Cynnal ymgyrch diffodd

Gweithredu asr gwastraff ynni yn ystod y gwyliau trwy gynnal ymgyrch diffodd
30 o bwyntiau CA1 CA2 CA3 CA4 CA5 Dinasyddiaeth
Ydych chi'n ddefnyddiwr Sbarcynni
Sign in now to record this activity and score your school 30 points!
Cofnodi'r gweithgaredd hwn

Trosolwg

Mae'r mwyafrif o ysgolion yn defnyddio llawer o'u hynni pan mae'r ysgol ar gau i ddisgyblion!  Allwch chi gredu y bydden nhw eisiau gwresogi a phweru adeilad gwag pan mae'n costio cymaint ac yn cael effaith amgylcheddol mor enfawr i wneud hynny?

Yn y siart hwn mae'r wythnosau gwyliau (mae pob bar yn cynrychioli wythnos) bron mor uchel ag wythnosau'r tymor!



Allwch chi weld faint oedd yr enghraifft uchod yn ei wario ar bweru'r ysgol yn ystod y gwyliau?

Cyn y gwyliau nesaf, gofynnwch i'ch Rheolwr Safle neu Ofalwr eistedd i lawr gyda chi i greu rhestr o bopeth y gallwch ei ddiffodd dros y gwyliau.

Dyma ychydig o bethau y gallwch eu rhoi ar y rhestr:
  1. Gwres ystafell nwy a thrydan (mae'n anhygoel faint o ysgolion sy'n gadael hwn ymlaen!). Peidiwch ag anghofio gwresogyddion trydan mewn ystafelloedd dosbarth dros dro a gwresogyddion storio. 
  2. Gwresogi dŵr poeth 
  3. Boeleri dŵr poeth (efallai y bydd rhai yn yr ystafell staff neu'r gegin)
  4. Oeryddion dŵr
  5. Llungopïwyr ac argraffwyr
  6. Cyfrifiaduron, gwefrwyr iPad a gliniaduron, byrddau clyfar a thaflunwyr
  7. Unrhyw weinyddion TG nad oes eu hangen dros y gwyliau
  8. Offer technoleg cerddoriaeth
  9. Offer dylunio a thechnoleg
  10. Gellir gwagio a diffodd oergelloedd a rhewgelloedd
  11. Gwyntyllau echdynnu a siambrau mwg
  12. Peiriannau puro aer wedi'u cyflwyno fel lliniariad Covid

Sicrhewch fod pawb yn gwybod am y rhestr ddiffodd.

Cynhaliwch wasanaeth, siaradwch â’r athrawon mewn cyfarfod staff neu crëwch bosteri i fynd o amgylch yr ysgol, gan gynnwys:
  • poster diffodd ar gyfer ystafell waith yr athrawon (peidiwch ag anghofio'r mannau cymunedol!)
  • arwydd ar gyfer yr ystafell athrawon, neu
  • siart ar gyfer y gegin.

Beth am edrych ar restrau gwirio Sbarcynni (uchod ar y dde) i'ch helpu i wneud yn siŵr nad oes unrhyw beth yn cael ei anghofio.

Lawrlwytho adnoddau

Rhestr diffodd yr haf
Rhestr diffodd y gaeaf
Rhestr wirio enghreifftiol
Rhestr wirio y gellir ei golygu

Gweithredwr newid category

View 34 activities in this category

Related programmes

Diffoddwch am y gwyliau!
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i Sbarcynni weithio. Hoffem hefyd ddefnyddio cwcis dadansoddol fel y gallwn ddeall sut rydych yn defnyddio'r gwasanaeth a gwneud gwelliannau. Dysgu rhagor

Dolenni Cyflym

  • Gweithgareddau
  • Gweithredoedd
  • Gweld ysgolion
  • Byrddau sgorio
  • Help
  • Cysylltu

Gwasanaethau

  • Energy management tool
  • Archwiliadau ynni
  • Gweithdai addysg
  • Hyfforddiant
  • Gwyliwch demo
  • Astudiaethau achos

Dolenni Eraill

  • Swyddi
  • Blog
  • Ystadegau ysgolion
  • Setiau data
  • Agor data

Termau Cyfreithiol

  • Telerau ac amodau
  • Polisi preifatrwydd
  • Cwcis
  • Polisi diogelu plant

Cofrestru am y Cylchlythyr

Cael y newyddion diweddaraf gan Sbarcynni yn eich mewnflwch
Ni fyddwn byth yn rhannu eich e-bost ag unrhyw un arall.
Cyhoeddir cynnwys ar y wefan hon o dan Drwydded Creative Commons Attribution 4.0.
Mae Sbarcynni yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, cofrestriad 1189273.