Dod o Hyd i'ch Cynghreiriad Ynni

5 CA1 CA2 CA3 CA4 CA5 Dinasyddiaeth
Mae gan bawb rhan i'w chwarae mewn lleihau gwastraff ynni ac allyriadau carbon yn eich ysgol. Yn fwy na disgyblion ac athrawon, gall cymuned gyfan eich ysgol wneud y newidiadau pwysig a fydd yn gwneud gwahaniaeth.

Unwaith y byddwch wedi dadansoddi'r defnydd trydan yn eich ysgol, neu asesu ble arall gallwch chi weithredu, mae angen i chi ddod o hyd i'r bobl sy'n gallu'ch helpu.
Gallai hyn fod eich gofalwr neu dîm ystadau. Efallai'ch rheolwr busnes? Neu efallai staff y gegin neu staff cinio sydd yn y sefyllfa orau i'ch helpu i wneud newidiadau.

Sïon sicr i gael cefnogaeth eich Cynghreiriaid Ynni:

  • Dewch o hyd i amser sy'n gyfleus i bawb cwrdd
  • Esboniwch pam fod hyn yn bwysig i chi ac i'r ysgol
  • Dysgwch am sut maen nhw'n defnyddio ynni yn eu swyddi
  • Gweithiwch gyda'ch gilydd - gwrandewch ar eu syniadau a cheisiwch ddod o hyd i ddatrysiadau gyda'ch gilydd
  • Byddwch yn gwrtais ac yn ystyriol - efallai y bydd ganddynt flaenoriaethau gwaith sy'n golygu na allant wneud newidiadau mor gyflym â byddech yn gobeithio

Edrychwch ar y gweithgareddau canlynol ar gyngor mwy penodol ar weithio gyda'r Cynghreiriaid Ynni hyn:

Eich Gofalwr neu Reolwr Cyfleusterau
Staff y Swyddfa
Eich Rheolwr Busnes
Y Staff Amser Cinio
Y Glanhawyr
Goruchwylwyr Amser Cinio
Llywodraethwyr yr Ysgol

Pwy fydd eich Cynghreiriad Ynni CHI y tymor hwn?