Dweud wrth eich cymuned ysgol gyfan am eich pwmp gwres newydd

Adnoddau a chyfarwyddyd ar gyfer ysgolion, cyflwyniadau disgyblion a chylchlythyrau

10 CA2 CA3 CA4 CA5 Dinasyddiaeth Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae gan eich ysgol bwmp gwres ac mae hynny'n rhywbeth eithaf arbennig.

Er bod pympiau gwres yn ddull poblogaidd ac effeithiol iawn o wresogi adeiladau mewn rhai gwledydd, fel Norwy, ym Mhrydain maent yn dal i fod yn eithaf anarferol.  Dim ond 3000 o bobl yn y DU gyfan sy'n gwybod mewn gwirionedd sut i'w gosod.  Felly efallai mai eich ysgol chi yw'r unig adeilad yn eich ardal sydd ag un ohonynt.

Fodd bynnag, mae pympiau gwres yn wirioneddol anhygoel.  Gallant fod yn ateb gwresogi carbon isel ar gyfer cartrefi ac adeiladau.   Felly dywedwch wrth eich ysgol a'ch cymuned amdano.

Efallai yr hoffech chi gynnal gwasanaeth i ddisgyblion neu sesiwn wybodaeth i rieni.  Gwnewch arddangosfa, ysgrifennwch erthygl ar gyfer y cylchlythyr neu'r papur newydd lleol/gwefan newyddion neu byddwch yn greadigol - posteri, fideos, taflenni i gyd.

Gallwch wneud eich ymchwil eich hun i bympiau gwres os dymunwch ond rydym wedi casglu rhai ffeithiau i chi eu defnyddio yma.


Mae'n wych gweld beth rydych chi'n ei wneud felly peidiwch ag anghofio recordio'r gweithgaredd hwn a chynnwys lluniau neu fideos neu ddogfennau fel y gallwn eu rhannu ag ysgolion eraill.

Lawrlwytho adnoddau