Sut mae gosod ein Pod Ynni wedi newid ein defnydd o ynni?

Dadansoddwch

20 CA3 CA4 CA5 Dinasyddiaeth Mathemateg a Rhifedd Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae eich ysgol wedi gosod Pod Ynni yn ddiweddar. Pwrpas gosod y pod ynni yw datgarboneiddio ynni eich ysgol. Mae hyn yn golygu newid i ffynhonnell wresogi sy'n creu llai o garbon deuocsid. Roedd y rhan fwyaf o ysgolion â Phod Ynni yn flaenorol yn cael eu gwresogi â nwy, tanwydd carbon, gan ddefnyddio boeler.  Mae'r Pod Ynni yn cynnwys pwmp gwres sy'n cael ei bweru gan drydan ac weithiau boeler nwy newydd i ychwanegu at y pwmp gwres. 

Mae pympiau gwres yn fwy effeithlon na boeleri nwy - gan gyflenwi 3 neu 4 gwaith cymaint o wres am yr un faint o ynni. Yn y modd hwn mae swm y carbon a ollyngir o ganlyniad i ddefnyddio pwmp gwres yn is na defnyddio boeler nwy. Ac mae’r grid trydan yn mynd yn lanach drwy’r amser, gyda tharged cenedlaethol i ddatgarboneiddio cynhyrchu trydan yn llwyr erbyn 2035. Mae hyn yn golygu y bydd y carbon deuocsid a gynhyrchir o ganlyniad i redeg pwmp gwres yn lleihau dros amser.

Nod y Pod Ynni yw i'r pwmp gwres gymryd drosodd o'r boeler nwy i wresogi eich ysgol.  Fodd bynnag, bydd hyn yn golygu newid yn eich defnydd o drydan.  Bydd  y daflen waith atodedig yn mynd â chi gam wrth gam drwy ddadansoddi eich data ynni i nodi'r newid hwnnw.

Lawrlwytho adnoddau