Disgyblion yn cwrdd â'r pennaeth a llywodraethwyr yr ysgol i greu polisi ynni

Gall disgyblion a rheolwyr yr ysgol gydweithio i ysgrifennu polisi arbed ynni a chynllun gweithredu

10 CA1 CA2 CA3 Dinasyddiaeth
Unwaith y byddwch wedi dadansoddi defnydd eich ysgol o ynni, wedi cael golwg ar ein hastudiaethau achos ac efallai wedi dangos y gall eich gweithredoedd helpu i leihau defnydd ynni ac allyriadau carbon yr ysgol, efallai y byddwch am eistedd i lawr gyda’ch Pennaeth a’ch Llywodraethwr Cynaliadwyedd/Cadeirydd y Llywodraethwyr creu Polisi Ynni.   Pan fydd pethau'n cael eu hysgrifennu, maen nhw'n cael eu gwneud!

Pethau i'w hystyried wrth ysgrifennu polisi ynni ysgol:

  1. Pwy sy'n gyfrifol am ynni?
  2. Sut bydd cynnydd yn cael ei fonitro?
  3. Sut bydd cynnydd yn  cael ei gyfleu i bawb yn yr ysgol?
  4. A yw eich ysgol yn fodlon buddsoddi amser staff  ac arian mewn arbed ynni?
  5. Sut bydd y polisi ynni yn cysylltu â pholisïau eraill yr ysgol megis caffael (prynu) neu gynllun datblygu'r ysgol?

Syniadau y gallech chi eu cynnwys ym mholisi ynni eich ysgol:

  1. Creu Tîm Ynni yn cynnwys disgyblion, staff a llywodraethwyr i sicrhau bod y gweithredoedd y penderfynwyd arnynt yn cael eu cyflawni. 
  2. Gosod targed ar gyfer lleihau dy ynni drwy ddangosfwrdd oedolion Sbarcynni.
  3. Monitro a gwerthuso eich defnydd o ynni yn rheolaidd fel eich bod yn gwybod beth sy'n arferol i'ch ysgol ac yn gallu nodi unrhyw ymchwyddiadau yn y defnydd a all fod oherwydd problemau. 
  4. Creu Cynllun Gweithredu a sicrhau bod yr ysgol gyfan yn ei ddeall ac yn ymwybodol o'r gweithredoedd, gan gynnwys eu cyfrifoldebau unigol. 
  5. Monitro defnydd ynni a chynnydd yn erbyn y targedau yn eich Cynllun Gweithredu.
  6. Cyfathrebu’n rheolaidd gyda chymuned yr ysgol gyfan, gan roi gwybod iddynt am y cynnydd a wnaed a ffyrdd o wella ymhellach. 

Ystyriwch drefnu archwiliad rhithwir Sbarcynni i'ch helpu i ddatblygu eich Cynllun Gweithredu. Bydd ein harchwiliwr yn cefnogi eich staff, disgyblion a llywodraethwyr i nodi'r enillion arbed ynni hawdd i'ch ysgol.  Cadw lle yma.


Lawrlwytho adnoddau