Disgyblion yn cyfathrebu â goruchwylwyr amser cinio a staff glanhau ynghylch arbed ynni

Trefnu cyfarfod gyda staff amser cinio a glanhawyr i drafod ffyrdd y gallent helpu i arbed ynni

10 CA1 CA2 CA3
Mae gan bawb yn yr ysgol ran i'w chwarae mewn arbed ynni.  Beth am drefnu cyfarfod gyda staff amser cinio i drafod ffyrdd y gallent helpu i arbed ynni.  Gall gweithredoedd posib y gallech chi eu hawgrymu gynnwys:

  1. Diffodd goleuadau mewn neuaddau cinio pan fydd digon o olau dydd.
  2. Agor bleindiau a llenni mewn neuaddau cinio i adael digon o olau dydd i mewn, i osgoi troi goleuadau ymlaen.
  3. Cau drysau a ffenestri amser cinio  os yw'r gwres ymlaen.
  4. Troi thermostatau i lawr mewn neuaddau cinio os yw'r ystafell yn teimlo'n rhy boeth, yn hytrach nag agor ffenestr.
  5. Annog plant i gau drysau i doiledau a choridorau pan fyddant yn mynd at y rhain amser cinio.


Peidiwch ag anghofio cynnwys cynnal cyfarfod gyda staff glanhau.  Yn aml, nhw yw'r olaf i adael yr ysgol gyda'r nos a gallent fod y rhai sy'n sicrhau bod yr holl eitemau trydanol i ffwrdd drwy'r nos.   Gall gweithredoedd posib y gallech chi eu hawgrymu gynnwys:

  1.  Diffodd y goleuadau ym mhob ystafell ddosbarth wrth iddynt orffen glanhau. Peidio â gadael goleuadau ymlaen drwy holl adeilad yr ysgol wrth lanhau.
  2. Gwirio bod ffenestri ar gau drwy'r ysgol wrth iddynt lanhau.
  3. Grymuso glanhawyr i ddiffodd offer TG sydd wedi'i farcio â sticer diffodd. 
  4. Sicrhau nad yw rheiddiaduron ac awyrellau yn cael eu rhwystro gan unrhyw offer a bod hidlwyr yn cael eu cadw'n lân ac yn rhydd o lwch. Mae hyn yn sicrhau cylchrediad gwell o wres i'r gofod ac yn lleihau'r ynni sydd ei angen i gwrdd â'r galw am wres. 
  5. Glanhau ffenestri, ffenestri to a ffitiadau i ganiatáu'r golau naturiol mwyaf posibl.
  6. Darparu gwresogyddion dŵr pwynt defnyddio i staff glanhau i'w defnyddio yn ystod gwyliau, er mwyn osgoi gwresogi tanc mawr o ddŵr yn ddiangen. 
  7. Difodd tapiau rhwng defnydd.
  8. Rhoi gwybod am dapiau sy'n diferu.
  9. Trafod ailgylchu mwy o wastraff - dyheu am fod yn ysgol ddiwastraff. A yw glanhawyr yn sylwi nad yw disgyblion a staff yn defnyddio'r biniau ailgylchu a ddarperir? A ellid gosod biniau ailgylchu yn well i gael mwy o ddefnydd ohonynt? A oes angen mwy o finiau ailgylchu?
  10. Trafod newid o dywelion papur i sychwyr dwylo ynni effeithlon.
  11. Rhoi gwybod am lampau diffygiol, a allai gael eu disodli gan ddewisiadau ynni effeithlon fel LEDs.
 

Ar ôl eich cyfarfodydd adroddwch yn ôl ar yr hyn rydych chi a’r staff amser cinio/glanhau wedi’i drafod i’r Rheolwr Busnes Ysgol a’r Pennaeth i greu darlun cyffredinol o ddefnydd ynni’r ysgol, ac unrhyw welliannau y gellid eu gwneud.