Disgyblion yn cwrdd â'r Rheolwr Busnes i drafod defnydd ynni a biliau'r ysgol

Trafod tariffau ynni'r ysgol a chamau arbed ynni posib gyda Rheolwr Busnes yr Ysgol

10 CA1 CA2 CA3
Dyma rai materion y gallech chi eu trafod gyda’r Rheolwr Busnes:

  1. Bydd Rheolwr Busnes yr Ysgol yn gallu dweud wrthych chi am dariff ynni eich ysgol. Mae’n debygol y codir cyfradd fesul kWh ar yr ysgol, felly mae’r bil ynni yn cynyddu wrth i’r ysgol ddefnyddio mwy o drydan a nwy, a thâl sefydlog y dydd, y mae’n rhaid  iddynt ei thalu p’un a ydynt yn defnyddio unrhyw nwy neu drydan ai peidio. Gweithiwch gyda'r Rheolwr Busnes i ychwanegu prisiau gwirioneddol yr ysgol at Sbarcynni er mwyn gwella'r wybodaeth am gostau ar y tudalennau costau manylach. Gallwch chi ofyn i'r Rheolwr Busnes ychwanegu tariffau'r ysgol yn Rheoli Ysgol - Rheoli tariffau. 
  2. Mae gwahanol gwmnïau ynni yn codi cyfraddau gwahanol. Allech chi ddarganfod pa mor aml mae'r Rheolwr Busnes yn gwirio i weld a yw'r ysgol ar y gyfradd orau? 
  3. Cynyddodd llawer o dariffau ynni yn sylweddol iawn yn 2022. Trafoda gyda Rheolwr Busnes yr Ysgol beth mae hyn yn ei olygu i'r ysgol. Faint mae cyfraddau eich ysgol wedi cynyddu? Beth na all eich ysgol ei fforddio mwyach os yw'n talu mwy am ynni? 
  4. Pa mor hen yw  boeler yr ysgol? A yw'n cael ei wasanaethu bob blwyddyn?  Gall boeler a wasanaethir yn rheolaidd arbed cymaint â 10% ar gostau gwresogi blynyddol. 
  5. A oes inswleiddio yn atig neu waliau'r ysgol?  Bydd 25% o wres adeilad yn dianc drwy do heb ei inswleiddio, sy’n ychwanegu cannoedd o bunnoedd y flwyddyn at filiau gwresogi. Mae insiwleiddio unrhyw ofod to a waliau ceudod allanol heb eu llenwi yn ffordd effeithiol a rhad o leihau colledion gwres. Gwiriwch fod yr inswleiddiad mewn cyflwr da a'i ailosod os oes angen.   Yn anffodus mae gan lawer o adeiladau ysgol doeau fflat a waliau allanol sengl sy'n gwneud mesurau insiwleiddio yn fwy anodd, aflonyddgar a chostus. Mae gwelliannau i'r rhain yn fwyaf cost effeithiol yn ystod prosiectau adnewyddu a dylid eu hystyried bob amser pan fydd cyfle. 
  6. A yw'r holl ffenestri a drysau gwydr sengl, dwbl neu driphlyg?
  7. A oes gan yr ysgol gyllideb ar gyfer mesurau gwella ynni megis goleuadau ynni effeithlon newydd, inswleiddio pibellau dŵr poeth, neu well rheolaethau gwresogi? A ellid cysylltu â'r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon i godi arian i dalu costau rhai mesurau arbed ynni?
  8. A allai’r  ysgol osod  amseryddion plygiau saith diwrnod  i leihau’r tebygolrwydd y bydd offer cymunol  fel llungopïwyr, ac argraffwyr yn cael eu gadael ymlaen dros nos neu dros y penwythnos? Dim ond ychydig o bunnoedd y mae'r rhain yn eu costio o siopau DIY.
  9. A yw'r ysgol erioed wedi edrych ar osod ffynhonnell ynni adnewyddadwy?  Y ffynonellau ynni sydd fwyaf tebygol o fod yn addas ar gyfer ysgolion yw:
    • Ynni solar (i gynhyrchu dŵr poeth a thrydan)
    • Ynni gwynt (i gynhyrchu trydan i’w ddefnyddio ar y safle neu i’w allforio i’r Grid Cenedlaethol) 
    • Biomas (a elwir weithiau yn ynni organig neu fiodanwydd, ac a ddefnyddir yn bennaf i gynhyrchu gwres).