Gweld gwres gyda chamera delweddu thermol

Archwilio detholiad o arbrofion gan ddefnyddio camera delweddu thermol

10 CA1 CA2 CA3
Inswleiddio
Mae inswleiddio yn ein dillad yn ein cadw'n gynnes ar ddiwrnodau oer. Mae inswleiddio a osodir yn ein cartrefi, ein hadeiladau a’n hysgolion yn lleihau faint o wres y maent yn ei golli yn ystod y gaeaf, gan eu gwneud yn gynhesach a lleihau faint o arian rydym yn ei wario ar nwy a thanwydd arall. Mae inswleiddio yn ein hadeiladau yn aml yn guddiedig, yn y waliau, mewn llofftydd ac o dan y llawr. Mae'n ffordd rad o arbed ynni ac arian; gwneud ein cartrefi a’n hysgolion yn rhatach i’w cadw’n gynnes. 

Mae rhai deunyddiau yn gadael i wres symud drwyddynt yn hawdd (maent yn dargludo gwres yn dda). Gelwir y deunyddiau hyn yn ddargludyddion thermol.

Metelau
Mae metelau (er enghraifft, dur ac alwminiwm) yn ddargludyddion thermol da. Rydym yn defnyddio metelau i wneud gwrthrychau sydd angen dargludo gwres yn dda. Er enghraifft mae sosbenni metel yn dargludo gwres yn dda fel bod y bwyd y tu mewn yn cynhesu'n gyflym.

Inswleiddwyr Thermol
Nid yw deunyddiau eraill yn gadael i wres symud drwyddynt yn hawdd (nid ydynt yn dargludo gwres yn dda). Gelwir y deunyddiau hyn yn inswleiddwyr thermol.
Mae plastigau, pren a rhai ffabrigau yn inswleiddwyr thermol da.
Mae inswleiddwyr thermol yn dda am gadw gwres allan a chadw gwres i mewn. Mae eich sgarff gaeaf yn enghraifft dda o inswleiddiwr thermol. Mae'n atal y gwres o'ch corff rhag dianc i'r aer oer.
Mae plastig yn enghraifft dda o inswleiddiwr thermol. Gellir ei ddefnyddio fel handlen ar sosban - mae'r plastig yn atal y gwres rhag teithio i'ch llaw.

Gwres
Mae gwres bob amser yn teithio o ardal gynhesach i ardal oerach. Felly bydd diod boeth a adewir mewn lle oer bob amser yn colli gwres i'r amgylchoedd. Bydd yn mynd yn oerach nes ei fod yn y pen draw ar yr un tymheredd â'i amgylchoedd.
Ond os yw'r ddiod y tu mewn i inswleiddiwr thermol da (fel fflasg thermos) bydd yn colli'r gwres yn araf iawn.

Arbrofion camera Delweddu Thermol
Gellir cwblhau'r arbrofion cysylltiedig fel arddangosiadau athro neu fel carwsél o weithgareddau yn y dosbarth ar gyfer disgyblion CA2 a CA3.

Mae'r gweithgaredd dysgu am inswleiddio yn gyfle i blant CA1/CA2 ddefnyddio'r camera thermol.

Os nad oes gan eich ysgol gamera thermol gall y rhain gael eu benthyg yn aml gan ysgolion uwchradd, prifysgolion, cynghorau lleol neu grwpiau cynaliadwyedd yn eich ardal.
Mae'r gweithgaredd hwn yn cysylltu â:
Cwricwlwm CA1 Lloegr - Gwyddoniaeth - Deunyddiau pob dydd
Cwricwlwm CA3 Lloegr - Ffiseg - trosglwyddo ynni

Cwricwlwm yr Alban - SCN 2-04a ffyrdd o leihau gwastraffu ynni.

Cwricwlwm CA2 Cymru -
Y Ddaear Gynaliadwy 4. Priodweddau defnyddiau
Cwricwlwm CA3 Cymru -
Sut mae pethau'n gweithio 2. cadwraeth ynni