Gwnwch weithgaredd creadigol ar thema arbed ynni

Syniadau ar gyfer rapiau, fideos, cerddi, straeon a rhagor i hyrwyddo'r neges arbed ynni

10 CA1 CA2 CA3
Dyma rai syniadau am weithgareddau creadigol ar thema arbed ynni y gallech chi eu defnyddio i hyrwyddo’r neges arbed ynni:

  1. Wrth i chi gwblhau rhai o'r gweithgareddau Sbarcynni eraill, cofnodwch  eich gweithgareddau gyda lluniau. Defnyddiwch y  lluniau i greu arddangosfa ysgol yn hyrwyddo mesurau arbed ynni. Bydd hyn yn helpu i atgoffa disgyblion ac athrawon o gamau arbed ynni syml y dylent barhau i'w gwneud gartref ac yn yr ysgol. 
  2. Wrth i chi gwblhau rhai o’r gweithgareddau Sbarcynni, meddyliwch am sut y gallech chi berswadio eraill i fabwysiadu’r un mesurau arbed ynni. Allech chi ddylunio arwyddion sy’n cyfleu dy neges yn glir, dal sylw disgyblion ac athrawon a’u hatgoffa  i arbed ynni? Gall gormod o arwyddion neu bosteri sy’n agos at ei gilydd leihau eu heffeithiolrwydd gan fod pobl yn dechrau eu hanwybyddu, felly dewiswch yn ofalus y negeseuon rydych chi am eu cyfleu a ble i osod eich arwyddion a phosteri.
  3. Ysgrifennwch erthygl papur newydd neu gylchgrawn am arbed ynni neu fater yn ymwneud ag ynni fel cynhesu byd-eang. Cofiwch ddefnyddio penawdau, pwyntiau bwled, tanlinellu ac ati i arwain y darllenydd. Gallech chi ddewis darlunio eich erthygl gyda diagramau a lluniau. Gallech chi hefyd ddewis cyflwyno rhywfaint o’r data rydych chi wedi’i gasglu yn eich ysgol eich hun, drwy eich ymgyrchoedd monitro, er enghraifft cofnodi a yw goleuadau ystafell ddosbarth wedi’u diffodd amser cinio, neu a yw drysau a ffenestri ar gau pan fydd y gwres ymlaen. Lluniwch eich siartiau eich hun i gyflwyno’r data, ac yna defnyddiwch yr erthygl i ddweud wrth eich cynulleidfa beth yw ystyr eich canlyniadau, a beth allai’r ysgol ei wneud  nesaf i leihau ei defnydd o ynni.
  4. Ysgrifennwch stori ffuglen i argyhoeddi eich cynulleidfa i arbed ynni. Gallech chi ysgrifennu stori ffuglen wyddonol sydd wedi'i gosod yn y  dyfodol gyda chynhesu byd-eang. Ymchwiliwch i rai o ganlyniadau disgwyliedig cynhesu byd-eang, a disgrifiwch fyd lle mae rhai o'r canlyniadau hynny'n realiti. Gwnewch eich byd  dyfodol deimlo'n real. Gwahoddwch eich darllenwyr i weld, clywed, teimlo, arogli a hyd yn oed flasu sut le fydd ein planed o dan gynhesu byd-eang. 
  5. Ysgrifennwch gerdd i gyfleu’r neges arbed ynni
  6. Crëwch fideo hyrwyddo i gael  disgyblion a staff i arbed ynni. Dangoswch y fideos gorau yn y gwasanaeth i gael  yr ysgol gyfan i gymryd rhan, hyd yn oed y plant ieuengaf. 
  7. Beth am gynnal cystadleuaeth diffodd goleuadau ysgol gyfan lle mae pob dosbarth yn cael dosbarth ei hun a maes arall o gyfrifoldeb yn yr  ysgol (ee toiledau, coridorau, neuaddau, swyddfeydd ac ati)? Rhowch 200 pwynt i bob dosbarth ar ddechrau'r gystadleuaeth. Monitrwch y goleuadau bob dydd ac os gadewir goleuadau yn eu parth neu ystafell ddosbarth arbennig ymlaen, caiff pwyntiau eu tynnu o'u sgôr. Y dosbarth gyda’r mwyaf o bwyntiau ar ddiwedd cyfnod o bythefnos yw enillydd y gystadleuaeth. I gael pobl yn gyffrous i gymryd rhan, ac i amlinellu'r rheolau, crëwch fideo byr a'i gyflwyno mewn gwasanaeth. 
  8. Ysgrifennwch gân neu rap am arbed ynni. Dyma enghraifft o rap arbed ynni o Ysgol Pentrehafod.

Enillwch fwy o bwyntiau Sbarcynni am bob math gwahanol o weithgaredd creadigol y byddwch chi'n ei wneud a'i gofnodi.