Rhannu'r neges arbed ynni gyda rhieni a'r gymuned leol

Syniadau i helpu i ledaenu'r gair am gamau arbed ynni

10 CA1 CA2 CA3 CA4 CA5 Dinasyddiaeth Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
P'un a ydych chi'n diffodd goleuadau, yn gosod y thermostat yn is, yn lleihau gwastraff bwyd neu'n rhoi cynnig ar gymudo carbon isel, y gwaith rydych chi'n ei wneud yn yr ysgol yw'r cam cyntaf yn unig.

Bydd rhannu’r gwaith rydych wedi bod yn ei wneud yn yr ysgol gyda rhieni/gofalwyr a’r gymuned ehangach yn ysbrydoli eich ffrindiau a’ch teuluoedd i wneud newidiadau yn eu cartrefi a’u gweithleoedd eu hunain. Erthyglau cylchlythyr, postiadau blog, llythyrau a rhagor. Beth am fod mor greadigol ag y gallwch i sicrhau bod rhieni/gofalwyr wir yn talu sylw.
Mae gan y gweithgaredd hwn ychydig o awgrymiadau ar gyfer ffyrdd y gallwch chi ledaenu'r gair.  

Peidiwch ag anghofio cofnodi pob gweithgaredd gwahanol a wnewch i ennill mwy o bwyntiau.  

Cofiwch anfon enghreifftiau o'ch gwaith atom neu tagiwch ni ar Twitter yn @EnergySparksUK fel y gallwn weld y gwaith cyfathrebu gwych rydych chi wedi bod yn ei wneud.

Lawrlwytho adnoddau