Ysgrifennu polisi ar gau drysau a ffenestri allanol pan fydd y gwres ymlaen

Gall disgyblion a staff gydweithio i ysgrifennu polisi i gael pawb yn yr ysgol i gofio bob amser i gadw ffenestri a drysau ar gau pan fydd y gwres ymlaen

30 CA1 CA2 CA3 CA4 CA5 Dinasyddiaeth
Mae'n gyffredin iawn i ystafelloedd dosbarth gael y gwres ymlaen a ffenestri a drysau ar agor ar gyfer awyr iach neu oeri. Mae hyn yn wastraff mawr o ynni! Mae diffodd rheiddiaduron yn gyntaf cyn i chi agor ffenestri a drysau yn bwysig iawn. 

Allwch chi ysgrifennu polisi i gael pawb yn yr ysgol i gofio bob amser gadw ffenestri a drysau ar gau pan fydd y gwres ymlaen? Cofiwch y gallwch leihau tymheredd ystafell ddosbarth gan ddefnyddio thermostatau rheiddiaduron a rheolyddion boeler yn hytrach nag agor drysau a ffenestri.

Dechreuwch trwy edrych ar ein henghraifft, yna addaswch hi ar gyfer eich ysgol neu ysgrifenna eich un eich hun.

Pethau i’w hystyried wrth ysgrifennu eich polisi:
  1. Pwy fydd yn gyfrifol am gau drysau a ffenestri? A all disgyblion a staff wneud hyn?
  2. Sut byddwch chi'n rhoi gwybod i ddosbarthiadau eraill beth maen nhw i fod i'w wneud a pham?
  3. Pwy fydd yn monitro a yw drysau a ffenestri ar gau? A fydd gennych fonitoriaid ynni dosbarth neu a fydd eich tîm Ynni neu dîm Eco yn cynnal hapwiriadau bob dydd?
  4. Sut byddwch chi'n cofnodi eich canfyddiadau?
  5. Sut byddwch chi’n rhannu gyda gweddill yr ysgol pa mor dda rydych chi’n gwneud?
  6. Sut byddwch chi'n gwobrwyo perfformiad da?

Lawrlwytho adnoddau