Monitro a yw drysau a ffenestri allanol ar gau yn ystod tywydd oer

Monitro a yw drysau a ffenestri ar agor pan fydd y gwres ymlaen ac archwilio atebion eraill i reoli gwresogi ac awyru ystafelloedd dosbarth

5 CA1 CA2 CA3 Dinasyddiaeth
Mae cael y tymheredd yn iawn yn yr ystafell ddosbarth yn bwysig; rhy boeth a bydd pawb yn cwympo i gysgu a ddim yn dysgu, yn rhy oer a byddwn yn crynu, a rhaid rhoi siwmperi ychwanegol ymlaen.  Weithiau mae athrawon yn agor ffenestri neu ddrysau pan fydd yr ystafell ddosbarth yn mynd yn rhy gynnes ac yn fyglyd yn ystod  misoedd y gaeaf. Yn hytrach dylem geisio troi’r gwres i lawr er mwyn lleihau’r defnydd o ynni ac arbed arian i’r ysgol. Mae agor ffenestri neu ddrysau yn golygu ein bod yn gollwng yr holl wres allan o'r adeilad, ac yn gwastraffu arian.

Gall disgyblion gwblhau'r gweithgaredd hwn i nodi lle mae gwres yn cael ei wastraffu yn yr ysgol.  Ydy thermostatau a rheiddiaduron wedi'u troi'n rhy uchel?