Adolygu amseroedd gwresogi'r ysgol

30 CA1 CA2 CA3 CA4 CA5 Dinasyddiaeth Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu Mathemateg a Rhifedd
Mae gwres llawer o ysgolion yn cynnau yn rhy gynnar yn y bore. Yn gyffredinol nid oes angen i foeleri gwresogi ddod ymlaen cyn 5am mewn tywydd oer a 7am pan fydd y tywydd yn fwynach. Os yw gwres eich ysgol yn cynnau cyn hyn, efallai y bydd modd gwneud newidiadau i reolyddion y gwres i arbed ynni a llawer o arian.

Bydd y gweithgaredd hwn yn eich helpu i ddarganfod a yw gwres yr ysgol yn rhedeg pan fydd yr ysgol ar gau. Lleihau defnydd nwy y tu allan i oriau yw un o'r ffyrdd mwyaf hawdd a rhad o arbed llawer o ynni a thorri'ch allyriadau carbon.

Ar gyfer y gweithgaredd hwn efallai y bydd angen pensil a phapur arnoch i nodi'ch canfyddiadau fel y gallwch eu rhannu gyda'ch athrawon, prif athro, gofalwr yr ysgol a disgyblion eraill.

Sut i wneud y gweithgaredd hwn

  1. Nwy yw'r ffynhonnell ynni mwyaf cyffredin ar gyfer gwresogi ysgolion, er mae rhai ysgolion yn defnyddio trydan neu olew ar gyfer gwresogi. Mae boeler nwy yn gweithio trwy losgi nwy i wresogi dŵr, sydd wedyn yn cael ei bwmpio o amgylch yr ysgol i wresogi'r rheiddiaduron.
    When an example school used gas over the past year. 'School day closed' is the gas used in the evenings and early mornings during term time.
     
  2. Mae'r siart gylch hon yn dangos faint o nwy y mae'ch ysgol yn ei ddefnyddio ar wahanol adegau. Faint o nwy y mae'ch ysgol yn ei ddefnyddio ar ddiwrnodau ysgol pan nad yw'r disgyblion yn yr ysgol ('Diwrnod Ysgol Ar Gau')? Ar gyfer llawer o ysgolion dyma'r nwy sy'n cael ei ddefnyddio cyn i ddisgyblion gyrraedd am tua 8.30am ac ar ôl 3.20pm, ond gallai hyn fod yn wahanol i'ch ysgol chi, yn enwedig os oes llawer o glybiau cyn neu ar ôl ysgol yn eich ysgol chi.  Allwch chi ddarganfod faint mae hyn yn ei gostio?
  3. Faint gallech chi ei arbed os byddech yn lleihau'r nwy sy'n cael ei ddefnyddio pan fod yr ysgol ar gau gan 10%? Gan 20%? Yn dibynnu ar bryd mae'ch gwres yn dod ymlaen, efallai gallech leihau'ch defnydd nwy gan hyd at 50%! Faint o arian byddai hyn yn ei arbed? Bydd bob amser angen i'r ysgol ddefnyddio rhywfaint o nwy cyn dechrau'r diwrnod ysgol, fel ei bod yn gynnes pan mae athrawon a disgyblion yn cyrraedd, ond gall y mwyafrif o ysgolion leihau'r maint o nwy maen nhw'n ei ddefnyddio.
    Gas use over 7 days for our example school (kW)
  4.  Mae'r siart hon yn dangos faint o nwy rydych chi wedi'i ddefnyddio ar gyfer y 7 diwrnod diwethaf y mae gennym ddata ar eu cyfer. (Os ydych chi'n rhoi cynnig ar y gweithgaredd hwn yn ystod misoedd yr haf, mae'n bosib na fyddwch yn gweld unrhyw ddefnydd nwy. Mae hyn yn wych - mae'n golygu nad yw'ch ysgol yn gwastraffu nwy ar wresogi yn ystod yr haf!) Allwch chi weld pa amser mae gwres eich ysgol yn dod ymlaen yn y bore? Sawl awr cyn i ddisgyblion gyrraedd yw hynny? Mae pob llinell lliw yn dangos diwrnod gwahanol. Ydy'ch gwres yn dod ymlaen ar yr un amser pob bore, neu a yw'n newid? Ydy penwythnosau yr un peth â diwrnodau'r wythnos? Oes unrhyw beth yn eich synnu?
  5. Pryd mae gwres eich ysgol yn cael ei ddiffodd? Ydych chi'n meddwl bod yna bobl yn yr adeilad o hyd ar yr amser hwnnw? Fel arfer mae adeiladau yn cadw eu gwres am ychydig, felly os oes rhai athrawon yn gweithio'n hwyr, efallai na fydd angen cadw'r gwres ymlaen yn yr ysgol gyfan.  
    Gas costs for our example school on one day (£)
  6. Dyma'ch nwy ar gyfer un diwrnod. Gallwch weld faint mae'ch ysgol yn ei wario ar nwy ar gyfer pob hanner awr o'r diwrnod. Faint o arian byddech yn ei arbed bob diwrnod trwy droi'r gwres ymlaen awr yn hwyrach bob diwrnod? Faint o arian gallech chi ei arbed mewn un diwrnod trwy ddiffodd y gwres awr yn gynt? Efallai nad yw'n edrych fel llawer ond mae'r ysgol ar agor i ddisgyblion 195 diwrnod o'r flwyddyn - gallai'r cyfanswm fod yn enfawr!

Beth i'w wneud nesaf

  1. Siarad â gofalwr neu brifathro'r ysgol am newid rheolyddion y boeler fel nad yw'r gwres yn dod ymlaen mor gynnar yn y bore. Gallech ysgrifennu llythyr atynt neu ofyn am gyfarfod a dangos y graffiau Sbarcynni hyn iddynt. Dywedwch wrthynt faint gallai'r ysgol arbed wrth droi'r gwres ymlaen yn hwyrach.
  2. Gallech hefyd ofyn iddynt ddiffodd y gwres 30 munud neu awr yn gynt. Os yw rhywun yn gweithio yn yr ysgol yr hwyrach gyda'r nos, fel arfer mae'n fwy effeithlon i wresogi'r ystafell honno gyda gwresogydd gwyntyll neu wresogydd trydan bach arall na'r ysgol gyfan.
  3. Efallai y bydd y gofalwr yn amharod i newid rheolyddion y boeler os ydynt yn meddwl y gallai'r athrawon gwyno bod yr ysgol yn rhy oer yn y bore. Gallech gytuno i newid amser cychwyn y gwres gan 30 munud neu 1 awr yn gyntaf fel treial.
  4. Gwiriwch dymereddau ystafelloedd dosbarth a lefelau cysur disgyblion a staff ar ddechrau'r diwrnod ysgol gan ddefnyddio ein gweithgaredd Mesur Tymereddau Ystafelloedd Dosbarth. Gofynnwch i ddisgyblion a staff a ydyn nhw'n teimlo'n rhy boeth neu oer neu'n iawn. Os ydyn nhw'n teimlo'n boeth neu'n gyfforddus, gallech geisio newid amser dechrau'r gwres ychydig yn fwy.

Gwybodaeth uwch

Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion mwy nodwedd ar reolydd y boeler o'r enw 'rheolydd dechrau optimaidd' sy'n cynnau'r boeler yn awtomatig yn gynt yn y diwrnod mewn tywydd oer ac yn ddiweddarach yn y dydd mewn tywydd cynhesach. Ond, mewn sawl ysgol nid yw'r awtomatiaeth hon yn gweithio'n iawn, ac mae'n troi'r boeler ymlaen yn rhy gynnar. Yr achos mwyaf cyffredin yw os yw'r thermostat y boeler  wedi'i leoli mewn ardal oer o'r ysgol megis cyntedd neu goridor yr ysgol. Mae thermostat y boeler yn dweud wrth y boeler beth yw tymheredd yr ysgol.  Os yw'r thermostat mewn ardal lle nad oes digon o reiddiaduron neu'n agos at ddrws sy'n aml ar agor, yna ni fydd y thermostat bydd yn cyrraedd y tymheredd sydd wedi'i osod ar y gwres. Mae hyn yn golygu ei fod yn dweud wrth y gwres i gynnau yn gynt ac yn gynt yn y bore, wrth i'r ystafelloedd dosbarth gynhesu a chynhesu. Fe allech ofyn i ofalwr yr ysgol geisio symud thermostat y boeler i ardal arall yn yr ysgol neu osod y thermostat ar dymheredd is.