Cynnal ymgyrch i gau drysau a ffenestri pan fydd y gwres ymlaen

Syniadau ymgyrchu i helpu atgoffa a gwobrwyo staff a disgyblion i gadw ffenestri a drysau ar gau pan fydd y gwres ymlaen

30 CA1 CA2 CA3 CA4 CA5 Dinasyddiaeth
Mae'n gyffredin iawn i ystafelloedd dosbarth gael y gwres ymlaen a ffenestri a drysau ar agor ar gyfer awyr iach neu oeri. Mae hyn yn wastraff mawr o ynni! Mae diffodd rheiddiaduron yn gyntaf cyn i chi agor ffenestri a drysau yn bwysig iawn.  
Allwch chi redeg ymgyrch i gael pawb yn yr ysgol i gofio bob amser gadw ffenestri a drysau ar gau pan fydd y gwres ymlaen? Cofiwch y gallwch chii leihau tymheredd ystafell ddosbarth gan ddefnyddio thermostatau gwresogi  a rheolyddion boeleri yn hytrach nag agor drysau a ffenestri.  

Pethau i'w hystyried wrth gynllunio eich ymgyrch:
  1. Pwy fydd yn gyfrifol am gau drysau a ffenestri? A all disgyblion a staff wneud hyn?
  2. Sut byddwch chi'n hyrwyddo'ch ymgyrch? Sut byddwch chi'n rhoi gwybod i ddosbarthiadau eraill beth maen nhw i fod i'w wneud a pham?
  3. Pwy fydd yn monitro a yw drysau a ffenestri ar gau? A fydd gennych fonitoriaid ynni dosbarth neu a fydd eich tîm Ynni neu Eco yn cynnal hapwiriadau bob dydd?
  4. Sut byddwch chi'n cofnodi eich canfyddiadau? 
  5. Sut cyddwch chi'n rhannu gyda gweddill yr ysgol pa mor dda rydych chi'n gwneud?
  6. Sut byddwch chi'n gwobrwyo perfformiad da?

Cofiwch: Mae cael y tymheredd yn iawn yn yr ystafell ddosbarth yn bwysig; rhy boeth a bydd pawb yn cwympo i gysgu a ddim yn dysgu, rhy oer a byddwn yn crynu, a rhaid rhoi siwmperi ychwanegol ymlaen.

Y tymereddau gorau ar gyfer ysgolion yw: 
  • Dosbarthiadau arferol: 18°C
  • Coridorau: 15°C
  • Ardaloedd â lefelau uchel o weithgarwch (e.e. neuaddau chwaraeon): 15°C
  • Ardaloedd â lefelau isel o weithgarwch: 21°C
  • Ysgolion anghenion arbennig neu ardaloedd gyda phlant ifanc iawn: 21°C