English
  • Gweithgareddau
  • Gweithredoedd
  • Ein hysgolion
    Gweld ysgolion Byrddau sgorio Cymharu ysgolion
  • Ein gwasanaethau
    Energy management tool Archwiliadau ynni Gweithdai addysg Hyfforddiant Astudiaethau achos Cylchlythyrau Fideos
  • Amdanom ni
    Cysylltu Tîm Blog Ein cyllidwyr Cefnogwch ni Swyddi Telerau ac amodau Polisi preifatrwydd Diogelu plant Ystadegau ysgolion
  • Help
  • Cofrestru
  • Mewngofnodi

Defnyddio data ynni yn ystod gwersi mathemateg

Ymarfer edrych ar ddata go iawn gan ddefnyddio siartiau Sbarcynni

30 CA2 Mathemateg a Rhifedd
Gweld 21 o weithgareddau cysylltiedig
Ydych chi'n ddefnyddiwr Sbarcynni
Mewngofnodwch nawr i gofnodi'r activity hwn ac ennill 30 o bwyntiau i'ch ysgol!
Mewngofnodwch i gofnodi activity
Mae siartiau Sbarcynni yn ffordd wych o ymarfer edrych ar ddata go iawn. 

Cyn i chi ddechrau mae angen i chi wybod beth yw kW a  kWh gan fod gan lawer o siartiau Sbarcynni yr opsiwn i ddangos y data ynni mewn kW neu kWh.

Mae kW yn golygu cilowat. Yn syml, 1,000 wat yw cilowat, sy'n fesur o bŵer. Felly, er enghraifft, gellid galw cawod trydan 10,000 wat hefyd yn gawod 10 cilowat.

Mae cilowat-awr (kWh) yn fesur o faint o ynni rydych chi'n ei ddefnyddio. Nid yw'n golygu nifer y cilowatau rydych chi'n eu defnyddio fesul awr. Yn syml, mae'n uned fesur sy'n cyfateb i faint o ynni y byddech chi'n ei ddefnyddio pe baech chi'n cadw teclyn 1,000 wat yn rhedeg am awr. Felly pe baech chi'n troi bwlb golau 100 wat ymlaen, byddai'n cymryd 10 awr i ddefnyddio hyd at 1 kWh o ynni. Mae angen 1,000 wat (1 kW) o bŵer ar ddril 1,000 wat i wneud iddo weithio, ac mae'n defnyddio 1 kWh o ynni mewn awr o ddefnydd parhaus.


Mae'r animeiddiad hwn yn rhoi esboniad gweledol da.


Nawr, dyma rai cwestiynau y gallech chi roi cynnig arnyn nhw wrth edrych ar y data:

Defnyddio siartiau llinell

Archwilio'r siartiau trydan dyddiol ar gyfer eich ysgol
  1. Dod o hyd i'r data trydan ar gyfer eich ysgol ar gyfer dydd Mercher diwethaf. Sawl kW o drydan oeddet ti'n ei ddefnyddio, pan oedd eich defnydd o drydan ar ei uchaf? Pa amser o'r dydd oedd hwn? Beth ydych chi'n meddwl oedd yn digwydd yn yr ysgol ar yr adeg hon?  
  2. Allech chi ddarganfod faint o kW o drydan roedd eich ysgol yn ei ddefnyddio am 1am ddydd Mercher diwethaf? Faint o drydan fyddech chi'n disgwyl ei ddefnyddio am 1am pan nad oedd neb yn yr ysgol? Oeddech chi'n synnu faint oeddech chi'n ei ddefnyddio?

Archwilio'r siartiau nwy dyddiol ar gyfer eich ysgol
  1. A oes adegau o'r dydd pan na ddefnyddir nwy? 
  2. Darllen y siart i ddarganfod pryd mae'r nwy yn cael ei droi ymlaen gyntaf yn y bore. Ydy hyn yn gynt na'r disgwyl?

Defnyddio siartiau bar

Archwilio'r siartiau trydan wythnosol ar gyfer eich ysgol
  1. Darganfod ar ba ddiwrnod y defnyddiodd eich ysgol y mwyaf o drydan yr wythnos ddiwethaf. Faint oedd hyn mewn £?
  2. Darganfod ar ba ddiwrnod y defnyddiodd eich ysgol y lleiaf o drydan yr wythnos ddiwethaf. Faint oedd hyn mewn £?

Archwilio'r siartiau nwy wythnosol ar gyfer eich ysgolDewisa wythnos ym mis Mai ac wythnos ym mis Ionawr i gymharu. 
  1. Pa ddiwrnod ddefnyddiwyd y mwyaf o nwy ym mis Ionawr? Faint o nwy mewn kWh a ddefnyddiwyd ar y diwrnod hwn?
  2. Pa ddiwrnod ddefnyddiwyd y mwyaf o nwy ym mis Mai? Faint o nwy mewn kWh a ddefnyddiwyd ar y diwrnod hwn?
  3. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng faint o nwy a ddefnyddir yn ystod yr wythnos ym mis Ionawr a'r wythnos ym mis Mai?


Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i Sbarcynni weithio. Hoffem hefyd ddefnyddio cwcis dadansoddol fel y gallwn ddeall sut rydych yn defnyddio'r gwasanaeth a gwneud gwelliannau. Dysgu rhagor

Dolenni Cyflym

  • Gweithgareddau
  • Gweithredoedd
  • Gweld ysgolion
  • Byrddau sgorio
  • Help
  • Cysylltu

Gwasanaethau

  • Energy management tool
  • Archwiliadau ynni
  • Gweithdai addysg
  • Hyfforddiant
  • Watch a demo
  • Astudiaethau achos

Dolenni Eraill

  • Swyddi
  • Blog
  • Ystadegau ysgolion
  • Setiau data
  • Agor data

Termau Cyfreithiol

  • Telerau ac amodau
  • Polisi preifatrwydd
  • Cwcis
  • Polisi diogelu plant

Cofrestru am y Cylchlythyr

Cael y newyddion diweddaraf gan Sbarcynni yn eich mewnflwch Ni fyddwn byth yn rhannu eich e-bost ag unrhyw un arall.
Cyhoeddir cynnwys ar y wefan hon o dan Drwydded Creative Commons Attribution 4.0.
Mae Sbarcynni yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, cofrestriad 1189273.