Ymchwilio i sut mae dŵr poeth yr ysgol yn cael ei gynhesu

Mae disgyblion yn siarad â’r gofalwr, rheolwr safle neu reolwr busnes i ddarganfod sut mae dŵr yn cael ei gynhesu yn yr ysgol

10 CA2 CA3 CA4 CA5 Dinasyddiaeth
Ydych chi'n gwybod sut a phryd mae dŵr poeth yn cael ei gynhesu yn eich ysgol? Mae nifer o opsiynau posib, rhai ohonynt yn fwy ynni-effeithlon nag eraill. Rhai o'r opsiynau yw:
  1. Gwresogyddion dŵr pwynt defnydd sydd ynghlwm wrth bob tap poeth yn y toiledau, ystafelloedd dosbarth a cheginau. Mae'r rhain yn cyflenwi symiau bach o ddŵr poeth yn ôl y galw. 
  2. Gwresogyddion trochi trydan naill ai'n ganolog neu ym mhob toiled, ystafell ddosbarth neu gegin.
  3. Boeleri nwy neu olew yn gwresogi dŵr poeth sydd wedi'i storio mewn tanc dŵr poeth

Siaradwch â’ch gofalwr, rheolwr  safle neu reolwr busnes i ddarganfod sut mae dŵr yn cael ei gynhesu yn dy ysgol. 

Sut i arbed ynni wrth gynhesu dŵr?
  1. Gofynnwch i'r gofalwr eich helpu i ddod o hyd i'r switshis amser ar gyfer y gwresogyddion trochi trydan. Gwnewch yn siŵr mai dim ond rhwng 8am a 3pm y bydd y rhain yn rhedeg. Os yw'r tanciau storio yn fawr efallai y galli di ddiffodd y gwresogydd troch am 2pm neu'n gynharach a dal i fod â digon o ddŵr poeth ar ôl am weddill y diwrnod ysgol.
  2. Gwiriwch fod y dŵr poeth wedi'i ddiffodd ar y penwythnos ac yn ystod gwyliau'r ysgol. Efallai y bydd angen i chi newid o amseryddion 24 awr i amseryddion 7 diwrnod i gyflawni hyn yn ddibynadwy, ond gall fod yn ffordd hawdd o arbed llawer o ynni.
  3. Addasu rheolyddion boeler nwy ac olew fel bod dŵr poeth yn cael ei gynhesu o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor yn unig. 
  4. Os yw boeleri'r system wresogi hefyd yn darparu dŵr poeth yn yr haf, sicrha bod cyn lleied â phosib o foeleri’n gweithredu ar gyfer darparu dŵr poeth a bod holl bympiau’r system wresogi yn cael eu diffodd a’r falfiau ar gau.
  5. Dylai tanciau a'u pibellau dosbarthu gael eu hinswleiddio'n dda i osgoi colli gwres.
  6. Mae gwastraffu dŵr poeth yn cosbi ysgol ddwywaith: unwaith am yr ynni a ddefnyddir i gynhesu'r dŵr ac eto am y dŵr a ddefnyddir. Gosod tapiau sy'n diffodd yn awtomatig a delio â thapiau sy'n diferu a gollyngiadau yn brydlon.
  7. Ystyriwch ddarparu gwresogyddion dŵr pwynt defnyddio i staff glanhau i'w defnyddio yn ystod gwyliau.