Troi gwres yr ysgol i lawr 1°C

Am bob 1 gradd C rydych yn gostwng y tymheredd rydych yn arbed yr ysgol tua 10% o'i chostau gwresogi

30 CA1 CA2 CA3 CA4 CA5 Dinasyddiaeth
Cyn gwneud y gweithgaredd hwn gwna'n siŵr eich bod wedi cynnal cyfnod o fonitro tymheredd yr ystafell ddosbarth, fel eich bod yn gwybod pa mor gynnes yw eich ysgol. Gallwhc chi gofnodi hyn fel gweithgaredd Sbarcynni. Cofnodwch y tymheredd yn uniongyrchol ar ein gwefan gan ddefnyddio'r ddolen ar y dangosfwrdd disgyblion. Efallai y byddwch chi hefyd am  wirio gyda disgyblion a staff a ydyn nhw'n rhy boeth, yn rhy oer neu'n iawn drwy gydol y dydd.

Y tymereddau gorau ar gyfer ysgolion yw: 

  • Dosbarthiadau arferol: 18°C
  • Coridorau: 15°C
  • Ardaloedd â lefelau uchel o weithgarwch (e.e. neuaddau chwaraeon): 15°C
  • Ardaloedd â lefelau isel o weithgarwch: 21°C
  • Ysgolion anghenion arbennig neu ardaloedd gyda phlant ifanc iawn: 21°C

Ar ôl i chi fonitro tymheredd ar draws yr ysgol, gofynnwch i'r gofalwr neu reolwr safle ar ba dymheredd y mae'r prif thermostatau gwresogi wedi'u gosod. A yw eich tymheredd a gofnodwyd o amgylch yr ysgol yn cyfateb i'r tymheredd rheoli gwresogi? Yn aml mae tymereddau yn yr ystafelloedd dosbarth yn uwch na thymheredd  gosodedig y system wresogi oherwydd bod prif thermostat y system wresogi wedi ei leoli mewn rhan o'r ysgol sy'n anodd ei gwresogi. Yn aml dyma neuadd yr ysgol a all fod yn ofod mawr sydd wedi’i insiwleiddio’n wael,  neu’n brif fynedfa i’r ysgol sy’n dueddol o gael drafftiau oer yn sgil agor drysau. Os gwelwch chi fod hyn yn wir,  gallwch chi geisio gostwng tymheredd gosod y system wresogi i is na 18°C, a pharhau i fonitro tymheredd yr ystafell ddosbarth a lefelau cysur. 

Os yw rheolyddion eich thermostat wedi’u gosod yn uwch na’r lefelau uchod, gofynnwch i’r gofalwr eu troi i lawr 1 gradd C.  Cofiwch wirio i weld a yw disgyblion neu staff yn dal yn gyfforddus gyda'r tymereddau newydd - gan amlaf ni fyddant hyd yn oed wedi sylwi!

Ar gyfer plant CA2, gallwch chi hefyd wneud rhywfaint o fathemateg i weithio allan faint y gallech chi arbed yr ysgol drwy droi'r tymheredd i lawr. Am bob 1 gradd C rydych chi'n gostwng y tymheredd rydych chi'n arbed tua 10% o gostau gwresogi'r ysgol. Mae ysgol gynradd gyffredin yn defnyddio tua £5,000 o nwy y flwyddyn. Ceisiwch gyfrifo faint y gallech chi ei arbed, pe baech chi'n gostwng y tymheredd yn eich ysgol 2 radd C?