Archwiliad ynni o labordai gwyddoniaeth a gweithdai dylunio a thechnoleg yr ysgol

Archwilio offer sy'n defnyddio ynni yn y labordai gwyddoniaeth a'r gweithdai technoleg a rhoi ein hawgrymiadau gorau ar gyfer arbed ynni ar waith

30 CA3 CA4 CA5 Dinasyddiaeth Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Cyflwyniad
Mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn defnyddio cyfarpar trydanol mewn labordai gwyddoniaeth, a stiwdios dylunio a thechnoleg. Mae'r ynni y mae'r eitemau hyn o offer yn ei ddefnyddio yn gallu bod yn sylweddol o'u hadio at ei gilydd. 

Y ffordd hawsaf o arbed ynni yw defnyddio cyfarpar mewn ffordd sy'n isafu ar ddefnydd ynni. Fel arfer, mae cyfarpar yn cael ei baratoi gan dechnegydd ar ddechrau gwers ac yn cael eu gadael wedi'u cynnau hyd at ddiwedd y sesiwn. Mewn labordai gwyddoniaeth a stiwdios dylunio a thechnoleg prysur, mae perygl y bydd cyfarpar yn cael eu gadael wedi'u cynnau drwy'r dydd - ac efallai dros nos hyd yn oed. Mae'n arfer da neilltuo cyfrifoldeb clir ar gyfer diffodd cyfarpar ar ôl y wers ac annog staff a myfyrwyr i isafu defnydd ynni yn ystod gwersi. Efallai y bydd hi'n anymarferol diffodd rhai cyfarpar mesur y mae eu heffeithlonrwydd wedi'i effeithio gan amser 'cynhesu' annigonol.

Mae siambrau mwg yn ddefnyddiwr sylweddol ar ynni. Nid yn unig y mae siambrau mwg yn defnyddio ynni trydanol i yrru'r ffan, maen nhw hefyd yn tynnu aer cynnes o'r labordy, gan gynyddu'r angen am wresogi gofod. Gall un siambr fwg gostio tua £750 y flwyddyn i'w redeg oherwydd y gwres ychwanegol sydd ei angen i wresogi'r aer newydd sy'n dod i mewn. Yn syml, trwy ddiffodd siambrau mwg y tu hwnt i oriau gellir gostwng hyn i lai na £200 y flwyddyn.

Gall ychydig o weithdrefnau syml ostwng defnydd ynni sy'n gysylltiedig â siambrau mwg:
• Defnyddio'r uchder sash cywir - gall uchder sash uchel gynyddu defnydd ynni ynghyd â rhoi defnyddwyr wrth risg o dynnu mygdarthau'n aneffeithiol
• Ni ddylid defnyddio'r siambr fwg fel gofod mainc - dylid defnyddio'r cwpwrdd ar gyfer camau o'r arbrawf sy'n cyflwyno perygl yn hytrach na'r arbrawf cyfan
• Diffoddwch y cypyrddau pan fyddan nhw'n wag neu nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio a dylid osgoi eu defnyddio i storio cemegau. Yn lle hynny, dylid storio cemegau mewn cwpwrdd storio pwrpasol.

Nod yr ymchwiliad
Yn ystod yr archwiliad ynni, byddwch yn edrych am gyfleoedd i ostwng defnydd ynni yn labordai gwyddoniaeth a gweithdai dylunio a thechnoleg yr ysgol. Pan fyddi wedi cwblhau eich archwiliad, dylech chi allu adnabod blaenoriaethau ar gyfer gwelliant yn yr ardaloedd hyn yn yr ysgol, y gallwch eu cyflwyno i'r tîm adrannol perthnasol a thîm rheoli'r ysgol. 

Rhestr gyfarpar
Cynlluniwch daenlen neu dabl o ganlyniadau â llaw i gofnodi cyfarpar labordy a gweithdy, eu lleoliad, defnydd ynni, a phatrymau defnydd. 

Dull
  1. Defnyddiwch siartiau Energy Sparks i wirio a oes gan eich ysgol fesuryddion ar wahân ar gyfer trydan y labordai gwyddoniaeth a gweithdai dylunio a thechnoleg yr ysgol? A allwch chi ddefnyddio'r siartiau i ganfod faint o drydan y mae'r ardaloedd hyn o'r ysgol yn eu defnyddio bob dydd yn ystod y tymor? A allwch chi ganfod faint o ynni y mae ardaloedd hyn yr ysgol yn eu defnyddio dros y penwythnos ac yng ngwyliau'r ysgol gan gyfarpar sydd wedi'u gadael yn rhedeg yn gyson, megis siambrau mwg, gwyntyllau echdynnu, cyfarpar yn cael eu gadael yn y modd segur ayyb?
  2. Ewch o amgylch labordai a gweithdai dylunio'r ysgol yn cofnodi nifer y gwahanol fathau o gyfarpar ac offer trydanol. Cadwch bethau yn syml a dim ond cofnodi cyfarpar ac offer sy'n rhedeg ar y prif gyflenwad trydan. Peidiwch â chynnwys cyfarpar sy'n cael eu rhedeg gan fatri y tro hwn. Ceisiwch ganfod faint o ynni y mae pob cyfarpar neu eitem yn ei ddefnyddio pan fydd ar waith. Bydd gan y rhan fwyaf o gyfarpar label arnynt yn dweud wrthych beth yw eu defnydd ynni mewn watiau (W) neu gilowat (kW). Cofnodwch eu defnydd ynni yn eich tabl canlyniadau.
  3. Ewch ati i gyfweld staff yr adran wyddoniaeth a thechnoleg i ddeall pa mor aml y mae pob eitem o gyfarpar yn cael ei defnyddio. 

Dadansoddiad Data a Chyflwyno
  1. A allwch chi adnabod y 5 eitem cyfarpar drydanol sy'n defnyddio'r mwyaf o ynni ym mhob labordy, gweithdy neu stiwdio?
  2. A allwch chi nodi lle'r ydych chi'n meddwl y mae ynni yn cael ei wastraffu yn labordai gwyddoniaeth a gweithdai dylunio a thechnoleg yr ysgol?
  3. Sut fyddech chi'n argymell bod staff a disgyblion yn newid eu hymddygiad i arbed mwy o ynni? 
  4. A allwch chi ddyfeisio ffordd o rannu eich prif argymhellion arbed ynni gyda'r adrannau gwyddoniaeth a thechnoleg ac eich cyd-ddisgyblion?

Casgliad
O'ch archwiliad o'r labordai gwyddoniaeth a gweithdai technoleg, a allwch chi adnabod pa mor effeithlon o ran ynni ydych chi'n meddwl y mae'r adrannau hyn? Rhowch eich tystiolaeth dros eich casgliad. Sut allwch chi ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi wedi'i dysgu i greu cynllun gweithredu i arbed ynni yn yr adrannau hyn? 

Camau Nesaf i arbed ynni
  1. Ewch ati i wirio bod y sêl ar unrhyw oergelloedd a rhewgelloedd (a ddefnyddir ar gyfer storio cemegau a samplau biolegol) yn gyflawn fel nad oes aer oer yn dianc.
  2. A yw thermostat yr oergelloedd wedi'i osod ar y lefel gywir ar gyfer y cynnwys. 
  3. Cofiwch gau drws yr oergell neu'r rhewgell yn syth ar ôl eu defnyddio. 
  4. Dylid dadrewi rhewgelloedd yn rheolaidd. 
  5. Dylid diffodd oergelloedd a rhewgelloedd yn ystod cyfnodau o wyliau, os yw hynny'n briodol. Os nad yw'n bosibl diffodd yr holl gyfarpar, a oes modd cyfuno'r cynnwys er mwyn gallu diffodd rhai ohonynt.
  6. Dylai unedau awyru a siambrau mwg/ffilteri gwyntyll echdynnu gael eu glanhau yn rheolaidd. Gall glanhau systemau awyru yn rheolaidd gynyddu eu heffeithlonrwydd gan gymaint â 50% o'i gymharu â'r systemau nad ydynt yn cael eu cynnal. 
  7. Dim ond pan fydd cyfarpar yn cael eu defnyddio y dylid eu cynnau, a dylid sicrhau eu bod yn cael eu diffodd yn llawn dros nos. 
  8. Dylid diffodd siambrau mwg a gwyntyllau echdynnu pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.

Gwerthusiad
Ewch ati i werthuso sut y gwnaethoch chi gynnal yr archwiliad a beth y gellid ei wneud i wella.