Cyflwyno polisi ar leihau'r defnydd o ynni ac adnoddau o argraffu a llungopïo.

Gall disgyblion a staff gydweithio i ysgrifennu polisi i leihau'r defnydd o ynni ac adnoddau o argraffu a llungopïo

30 CA1 CA2 CA3 CA4 CA5
Faint o daflenni gwaith ydych chi'n eu defnyddio yn y dosbarth?  Mae papur yn adnodd pwysig mewn ysgolion ac yn un nad ydym yn meddwl amdano o gwbl yn aml.  Mae’n bosib y bydd staff eich swyddfa/adran gaffael yn gwneud ymdrech i brynu papur wedi’i ailgylchu ac efallai y byddwch yn ailddefnyddio papur sydd wedi’i argraffu ar un ochr yn unig ac yn ailgylchu ledled yr ysgol, ond pan fyddwn yn argraffu llawer, nid papur yn unig rydym yn ei ddefnyddio, rydym yn defnyddio ynni.

Am bob cilowat awr y defnyddir argraffydd laser, cynhyrchir bron i hanner cilogram o nwyon tŷ gwydr (mae hyn ychydig yn llai ar gyfer argraffydd inkjet ond argraffwyr laser yw llungopïwr/argraffwyr mawr y rhan fwyaf o ysgolion).  Mae hynny'n cyfateb i tua 6g o nwyon tŷ gwydr fesul darn unigol o bapur.

Nid gwastraff papur yn unig yw argraffu a llungopïo diangen; mae'n gwastraffu ynni hefyd. Bydd rheoli eich offer a defnydd yn gywir yn caniatáu i chi arbed y ddau. 

Mae'r ynni a ddefnyddir gan argraffwyr/copïwyr yn amrywio'n fawr ond yn gyffredinol, po gyflymaf yw'r cyflymder argraffu a'r uchaf yw'r ansawdd argraffu, y mwyaf o ynni a ddefnyddir. 

Hyd yn oed pan nad ydynt yn cael eu defnyddio, mae argraffwyr yn y modd segur yn dal i ddefnyddio ynni: gallant ddefnyddio 30-40% o'u galw am bŵer brig dim ond yn yr eiliadau rhwng newid o argraffu i foddau segur.  Gall newid â llaw i'r modd segur ar ôl ei ddefnyddio leihau'r amser hwn gan arwain at arbedion cost da, llai o allbwn gwres a mwy o fywyd gweithredu argraffydd.

Gallwch chi ddod o hyd i'n polisi enghreifftiol yma.  Defnyddiwch hwn i ysgrifennu polisi ar gyfer eich ysgol a chynllun gweithredu ar gyfer y newidiadau rydych yn bwriadu eu gwneud.



Lawrlwytho adnoddau