Diwrnod Diffodd

Rhowch her i'ch hun i dreulio diwrnod cyfan gartref heb drydan

5 CA1 CA2 CA3 CA4 Dinasyddiaeth
Allwch chi ddychmygu sut fyddai bywyd heb drydan? 
Rydym yn dibynnu ar drydan nid yn unig ar gyfer y dechnoleg rydym yn mwynhau ei defnyddio, ond hefyd yn aml ar gyfer ein gwresogi, hylendid a bwyd! 

Heriwch eich hun i dreulio diwrnod cyfan heb ddefnyddio unrhyw drydan.

Yn 2019 cynhyrchwyd 51.45% o drydan y DU gan danwydd ffosil. 

Mae llosgi tanwydd ffosil yn rhyddhau nwyon tŷ gwydr i'n hamgylchedd, nwyon sy'n dal gwres yn ein hatmosffer ac yn gwneud y blaned yn gynhesach. Mae’r cynhesu hwn yn newid ein hinsawdd, yn toddi ein capiau iâ pegynol, yn cynyddu lefelau’r môr ac yn gwneud yr amgylchedd yn fwy llygredig ac anghroesawgar i anifeiliaid, planhigion a ninnau! 

Mae dros hanner y trydan a ddefnyddir ym mhob cartref yn y DU yn cyfrannu at y newid hwn yn yr hinsawdd. (Gall eich cartref fod yn fwy neu'n llai na hyn). 

Ar eich Diwrnod Pweru i Lawr efallai y bydd angen i chi feddwl am:
  • Sut rydych chi'n paratoi bwyd
  • Beth ydych chi'n ei wneud am hwyl
  • Beth sy'n digwydd ar ôl iddi dywyllu
  • a mwy!

Lawrlwytho adnoddau