Cyn gwneud hyn, gwnewch yn siŵr eich bod wedi cynnal cyfnod o fonitro tymheredd yr ystafell ddosbarth fel eich bod yn gwybod pa mor gynnes yw eich ysgol. Gallwch gofnodi hyn fel
gweithgaredd i ddisgyblion Sbarcynni a gallwch ddefnyddio'r
ffurflen hon i gofnodi'r tymheredd yn eich ysgol.
Y tymereddau gorau ar gyfer ysgolion yw:
- Ystafelloedd dosbarth arferol: 18°C
- Coridorau: 15°C
- Ardaloedd â lefelau uchel o weithgarwch (e.e. neuaddau chwaraeon): 15°C
- Ardaloedd â lefelau isel o weithgarwch: 21°C
- Ysgolion anghenion arbennig neu ardaloedd gyda phlant ifanc iawn: 21°C
Ar ôl i chi fonitro tymheredd ar draws yr ysgol, gwiriwch i ba dymheredd y mae'r prif thermostatau gwresogi wedi'u gosod. A yw eich tymheredd a gofnodwyd o amgylch yr ysgol yn cyfateb i'r tymheredd rheoli gwresogi?
Yn aml, mae tymheredd yr ystafelloedd dosbarth yn uwch na'r tymheredd a osodwyd ar gyfer y brif system wresogi oherwydd bod thermostat y brif system wresogi wedi'i leoli mewn rhan o'r ysgol sy'n anodd ei gwresogi. Er enghraifft, gellir ei leoli yn neuadd yr ysgol a all fod yn ofod mawr sydd wedi'i inswleiddio'n wael neu ym mhrif fynedfa'r ysgol sy'n dueddol o gael drafftiau oer o agor drysau. Os gwelwch fod hyn yn wir, gallech geisio gostwng tymheredd gosod y system wresogi i is na 18°C a pharhau i fonitro tymheredd yr ystafell ddosbarth a lefelau cysur.