Newidiwyd amser gweithredu gwres canolog

Gweithredu ein harweiniad ar osod amser cychwyn y bore ac amser gorffen gwresogi i arbed ynni

30 o bwyntiau ar gyfer y weithred hon

Trosolwg

Mae Sbarcynni yn darparu dadansoddiad manwl o amseroedd gwresogi ar gyfer ysgolion gan eu bod yn aml yn cael eu rheoli'n wael gyda'r gwres yn dod ymlaen yn rhy gynnar yn y bore ac yn diffodd yn rhy hwyr yn y nos. I weld y dadansoddiad hwn, ewch i'r 'Dangosfwrdd Oedolion' ar gyfer eich ysgol, cliciwch ar 'Adolygu eich dadansoddiad ynni,' sgroliwch i lawr a chliciwch ar y blychau yn yr adran 'Rheoli boeler' y dudalen we, yn enwedig 'Amser cychwyn y bore.' 
  • Ar ddiwrnod gaeafol arferol, ni ddylai'r gwres ddod ymlaen mwy na dwy awr cyn i'r ysgol agor (efallai y bydd angen amser cychwyn cynharach ar ddydd Llun).
  • Dylid diffodd y gwres tua'r adeg y bydd yr ysgol yn cau oherwydd dylai gwres gweddilliol yr ysgol fod yn ddigon i gadw clybiau ar ôl ysgol yn gynnes heb fod angen gadael y gwres ymlaen.
  • Ni ddylai fod angen defnyddio nwy rhwng cau’r ysgol (e.e. 4pm) a 5am y bore wedyn, oni bai ei bod hi’n dywydd oer iawn a bod amddiffyniad rhag rhew wedi cychwyn. (Mae rhai o’r siartiau’n dangos defnydd bob hanner awr ar ddiwrnodau unigol neu gallwch edrych yn fanwl ar ddiwrnod unigol drwy glicio ar y siart defnydd o nwy ar dudalen dangosfwrdd oedolion.) Hyd yn oed mewn tywydd rhewllyd, dim ond ychydig bach o nwy sydd angen ei ddefnyddio i godi'r tymheredd yn yr ysgol ychydig raddau.
  • Dylai'r gwresogi ddechrau tua dwy awr yn gynharach ar ddydd Llun i wneud iawn am y ffaith bod ffabrig yr ysgol yn oeri dros y penwythnosau ond am weddill y dyddiau o'r wythnos, dylid troi'r gwres ymlaen mor hwyr â phosib.

Rheolaeth cychwyn gorau posib

Mae gan lawer o ysgolion ‘rheolaeth cychwyn gorau posib’ wedi’i ffurfweddu sy’n edrych ar y tymheredd y tu allan a’r tu mewn ac sy’n amserlennu’r gwresogi yn awtomatig i ddechrau’n gynt mewn tywydd oerach ac yn hwyrach mewn tywydd mwynach.

Yn anffodus, nid yw hyn yn gweithio'n iawn yn y rhan fwyaf o ysgolion ac mae'n achosi i'r gwres dod ymlaen cyn 4:00am. Mae hyn yn bennaf oherwydd bod thermostatau boeler wedi'u gosod yn y lle anghywir, megis coridorau. O ganlyniad, efallai y bydd y coridorau’n codi i’r tymheredd erbyn i’r ysgol agor ond mae’r ystafelloedd dosbarth wedi bod yn wastraffus ar y tymheredd cywir ers canol nos! Rydym yn argymell yn gyffredinol, os yw hyn yn wir, i ddiffodd y ‘rheolaeth gychwyn gorau posib’ a cheisio newid i amseroedd sefydlog e.e. 6.30am i 3.30pm i weld sut mae'n mynd. 

Problem arall gyda’r ‘rheolaeth gychwyn gorau posib’ yw mai’r amser rydych yn ei osod yn rheolydd y boeler yw’r ‘Amser meddiannu’ ac nid pan fyddwch am i’r boeler droi ymlaen. Felly, fel arfer dylech ei osod i 8:15am, ar y sail eich bod am i'r ysgol gyrraedd y tymheredd am 8:15am ac nid, er enghraifft, 5:30am gan gredu ar gam mai dyma pryd y bydd y boeler yn dod ymlaen. Os byddwch yn ei osod i 5:30am, y cyfan a fydd yn digwydd yw y bydd y ‘rheolaeth gychwyn gorau posib’ yn cychwyn y boeler yn gynharach i godi tymheredd yr ysgol erbyn 5:30am!

Os ydych chi'n dibynnu ar eich peirianwyr gwasanaeth boeler i ffurfweddu'r gosodiadau hyn, mae angen i chi fod yn eithaf grymus gyda nhw a gwneud yn siŵr eu bod yn deall bod gosodiadau anghywir yn costio arian i'r ysgol. Os byddant yn gwneud unrhyw newidiadau, gallwch wedyn adolygu eich data gwresogydd nwy neu storio ar Sbarcynni ychydig ddyddiau'n ddiweddarach i wirio bod y gwres yn dod ymlaen ar yr amser cywir.