Mae Falfiau Rheiddiaduron Thermostatig (TRV) (a ddangosir yn y llun uchod) yn rheoli llif y dŵr poeth i mewn i reiddiaduron ac yn diffodd pan fydd yr ystafell yn codi i dymheredd.
Mae TRV yn aml yn cael eu gosod i'w gwerth uchaf mewn llawer o ystafelloedd mewn ysgolion. Mae hyn yn golygu bod ystafelloedd yn aml yn rhy boeth a ffenestri'n cael eu hagor i'w hoeri sy'n gwastraffu ynni. Mae'r TRV wedi'u cynllunio i gynnal tymheredd penodol ac felly ni ddylid eu gosod i'r terfyn uchaf yn gyffredinol. Mae defnyddwyr ysgol hefyd yn eu troi i fyny i'r eithaf pan fyddant yn cyrraedd yn y bore os yw'n oer, o dan y gred anghywir y bydd yr ystafell yn cynhesu'n gyflymach.
Rydym yn argymell yn gyffredinol y dylai fod yn rhan o amserlen y gofalwr neu reolwr yr adeilad i fynd o amgylch yr ysgol bob pythefnos neu dair wythnos i wirio’r TRV a’u gosod i lefel resymol. Gallai fod yn ddefnyddiol hefyd trafod â defnyddwyr yr ystafell a yw'r ystafell yn rhy oer ar adegau penodol.
Weithiau, os yw TRV wedi'u troi i fyny oherwydd ei bod hi'n oer ar fore Llun, efallai y byddai'n werth troi'r boeler ymlaen ddwy awr yn gynharach ar gyfer boreau Llun yn unig.
Mewn rhai ysgolion sydd â systemau gwresogi eraill, nid yw’n bosib gosod TRV ond yn aml gallwch newid ffurfwedd eich boeler i gynnwys ‘cyfadferiad tywydd’ sy’n troi tymheredd y dŵr gwres canolog sy’n cylchredeg i lawr mewn tywydd mwynach ac mae gan hyn effaith debyg ar TRV. Os yw hyn yn wir yn eich ysgol chi, cofiwch ofyn i beiriannydd eich boeler am ‘cyfadferiad tywydd’ y tro nesaf y bydd yn gwasanaethu’r boeler.