Ychwanegwyd inswleiddio at danciau dŵr poeth a phibellau

Defnyddio ein cyngor a dewisiadau eraill i wella effeithlonrwydd system dŵr poeth eich ysgol

30 o bwyntiau ar gyfer y weithred hon

Trosolwg

Mae gwresogi dŵr poeth sy'n seiliedig ar nwy yn aml yn aneffeithlon iawn oherwydd bod y system yn cylchredeg dŵr poeth yn barhaol mewn dolen o amgylch yr ysgol felly mae dŵr poeth ar gael ar unwaith pan fydd rhywun yn troi tap ymlaen. Mae'r pibellau cylchredol a ddefnyddir i wneud hyn yn aml wedi'u hinswleiddio'n wael ac yn colli gwres. Yn aml, dim ond 20% yn effeithlon yw’r mathau hyn o systemau o’u cymharu â gwresogyddion dŵr pwynt defnyddio uniongyrchol sydd yn aml dros 90% yn effeithlon.

Byddai Sbarcynni yn argymell newid i wresogyddion dŵr trydan pwynt defnyddio, yn enwedig pan fyddwch yn adnewyddu toiledau, ond os nad yw hyn yn bosib, rydym yn argymell eich bod yn sicrhau bod eich pibellau dŵr poeth a’ch tanciau wedi’u hinswleiddio’n dda. Yn y tymor byr, gallwch hefyd wneud arbedion drwy wella amseriad eich system dŵr poeth. A oes angen iddo fod yn gwresogi ac yn cylchredeg dŵr poeth pan fydd yr ysgol ar gau, y tu allan i oriau ysgol yn ystod yr wythnos, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau?